Mae disgwyl i Neil Warnock barhau yn ei swydd fel prif hyfforddwr yr Adar Gleision y tymor nesaf, er bod y clwb wedi disgyn o Uwch Gynghrair Lloegr yn ddiweddar.
Fe gollodd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd o 3-2 yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn (Mai 4), gan arwain at amheuon gan Neil Warnock ynghylch ei ddyfodol gyda chlwb y brifddinas.
Ond mae perchennog yr Adar Gleision, Vincent Tan, wedi dweud ei fod yn hapus i weld yr hyfforddwr 70 oed yn aros yn ei swydd.
“Dw i’n hapus i weld Neil yn aros er mwyn iddo allu ennill dyrchafiad am y nawfed tro,” meddai Vincent Tan wrth BBC Sport Wales.
Mae Neil Warnock wedi disgrifio’r tymor hwn fel yr un anoddaf yn ei yrfa, sy’n ymestyn dros gyfnod o ddeugain mlynedd.
Ym mis Ionawr, bu’n rhaid iddo ddelio â marwolaeth yr ymosodwr, Emiliano Sala, a fu farw mewn damwain awyren ychydig ddiwrnodau ar ôl iddo arwyddo cytundeb £15m gyda’r Adar Gleision.
Roedd yn grediniol y byddai’r llanc 28 oed wedi chwarae rhan allweddol yn y dasg o gadw Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair.