Fe fydd gan un o’r mawrion yn hanes Clwb Pêl-droed Abertawe y cyfrifoldeb o geisio atal Daniel James heddiw, wrth i’r Elyrch deithio i Queen’s Park Rangers (dydd Sadwrn, Ebrill 13, 3 o’r gloch).

Fe fydd Angel Rangel, cyn-gapten yr Elyrch, yn cymryd ei le yn safle’r cefnwr de wrth i’r Cymro ifanc ymosod o’r asgell.

“Mae Daniel wedi dangos yn ddiweddar mai ei gyflymdra yw ei gryfder mwyaf, ac mae e wedi gwella ar ei gynnyrch terfynol yn fawr iawn,” meddai Angel Rangel.

“Pan oedd e’n iau, gallech chi weld fod angen iddo fe weithio ar ei benderfyniadau, ond mae e wedi datblygu hynny’n dda iawn y tymor hwn.

“Mae e wedi gwella tipyn fel chwaraewr, ac mae e’n chwarae â llawer o hyder.

“Dw i’n credu ei fod e’n cael gwasanaeth da iawn, sy’n ei gael e mewn safleoedd lle gall e niweidio amddiffynwyr.

“Fy ngwaith i yw ceisio atal hynny.”

Herio’r Elyrch

Chwaraeodd Angel Rangel, sy’n hanu o Gatalwnia, mewn 374 o gemau i’r Elyrch dros gyfnod o 11 o flynyddoedd gyda’r clwb.

Ond fe adawodd SA1 wrth i’w gytundeb ddirwyn i ben ar ddiwedd y tymor diwethaf, pan gwympodd yr Elyrch o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth.

Cafodd ei enwi yn nhîm QPR ar gyfer y gêm gyfatebol yn Stadiwm Liberty ym mis Medi.

Tra bod gan yr Elyrch lygedyn o obaith o gyrraedd y gemau ail gyfle, mae QPR chwe phwynt yn unig uwchlaw safleoedd y gwymp.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm,” meddai.

“Mae bob amser yn arbennig pan ydych chi’n herio’ch hen glwb, yn enwedig wrth chwarae o flaen cefnogwyr Abertawe.

“Dylai hi fod yn gêm dda. Mae gan y ddau dîm dargedau gwahanol.

“Yn amlwg, mae’r Elyrch yn chwarae’n dda ar hyn o bryd ac mae ganddyn nhw obaith o gyrraedd y gemau ail gyfle.”

Emosiynau

Mae Angel Rangel yn cyfaddef y bydd rhaid rhoi ei emosiynau i’r naill ochr.

“Mae’n mynd i fod ychydig yn rhyfedd, ond nid cymaint ag yr oedd pan wnaethon ni chwarae yn y Liberty.

“Mae’n anodd bod yn emosiynol pan ydych chi’n brwydro i aros yn y gynghrair.

“Er fy mod i’n chwarae yn erbyn fy ffrindiau a fy hen gyd-chwaraewyr, rhaid i fi jyst trin hon fel unrhyw gêm arall oherwydd y sefyllfa rydyn ni ynddi.”