Mae Tommy Smith, seren timau pêl-droed Lerpwl ac Abertawe, wedi marw’n 74 oed.

Roedd yn aelod o dîm yr Elyrch yn 1978, ar ddechrau eu cyfres o ddyrchafiadau o’r bedwaredd adran i’r adran gyntaf mewn tymhorau olynol, a hynny o dan arweiniad John Toshack.

Chwaraeodd e mewn 36 o gemau yn 1978-79 yn ystod cyfnod ar fenthyg ar gae’r Vetch.

Roedd yn aelod o dimau llwyddiannus Lerpwl yn y 1960au a’r 1970au, gan dreulio 18 tymor yn Anfield, ac roedd e’n aelod o dîm Bill Shankly a gododd Gwpan FA Lloegr am y tro cyntaf yn 1965.

Enillodd e bedwar tlws y gynghrair a Chwpan Ewrop yn 1977, yn ystod gyrfa yn Anfield a barodd 638 o gemau rhwng 1963 a 1978.

Y tu hwnt i’r byd pêl-droed, roedd e’n berchen ar glwb byd-enwog y Cavern yn Lerpwl am gyfnod.

Cafodd e drawiad ar y galon yn 2007 ac yn fwyaf diweddar, roedd yn dioddef o Alzheimer a dementia, y salwch y bu farw ei wraig Susanne ohono bedair blynedd yn ôl.

Mae’n gadael merch, Janette, mab, Darren, a phedwar o wyrion, Matthew, William, Jessica ac Imogen.