Abertawe 3–1 Stoke
Mae rhediad cartref da Abertawe yn y Bencampwriaeth yn parhau wedi iddynt drechu naw dyn Stoke ar y Liberty nos Fawrth.
Roedd yr Elyrch eisoes ar y blaen cyn i ddau o’r ymwelwyr gael eu hanfon oddi ar y cae yn gynnar yn yr ail hanner.
Bu bron i’r tîm cartref fynd ar y blaen wedi deuddeg munud ond gwnaeth Jack Butland arbediad da yn isel i’w chwith i atal Oli McBurnie.
Ni fu rhaid i Abertawe aros yn hir serch hynny cyn i Dan James grymanu ergyd hyfryd o gornel y cwrt cosbi i agor y sgorio hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Dyblodd Mike van der Hoorn y fantais o gic gornel Wayne Routledge bum munud cyn yr egwyl ond roedd Stoke yn ôl yn y gêm gyda gôl James McClean yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner.
Dechreuodd yr ail hanner, fel y cyntaf, gyda Abertawe’n rheoli a James yn achosi problemau i amddiffyn Stoke.
Aeth yr ymwelwyr i lawr i ddeg dyn wedi i Bruno Martins Indi lorio asgellwr Cymru ac roeddynt i lawr i naw ar yr awr ar ôl i Thomas Edwards dderbyn ail gerdyn melyn am drosedd ar, pwy arall ond James.
Yn naturiol, llwyr reolodd yr Elyrch wedi hynny ond bu’n rhaid iddynt aros tan bedwar munud o’r diwedd cyn i McBurnie selio’r tri phwynt gyda pheniad o bêl hir Barrie McKay.
Mae’r canlyniad yn cadw tîm Graham Potter yn y trydydd safle ar ddeg yn y tabl.
.
Abertawe
Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vickers, Naughton (McKay 78’), Grimes, Byers, Dyer, McBurnie, James (Asoro 87’), Routledge (Fulton 68’)
Goliau: James 23’, van der Hoorn 40’, McBurnie 86’
.
Stoke
Tîm: Butland, Edwards, Batth, Williams, Martins Indi, Etebo (Adam 90+1’), Allen, Afobe (Collins 64’), Clucas, McClean, Vokes (Diouf 80’)
Gôl: McClean 45+3’
Cardiau Melyn: Etebo 34’. Edwards 39’, 60’
Cardiau Coch: Martins Indi 53’, Edwards 60’
.
Torf: 17,804