Mae angen i dîm pêl-droed Abertawe ddal ati er mwyn sicrhau buddugoliaeth hirddisgwyliedig, yn ôl y rheolwr Graham Potter.
Daw ei sylwadau ar ôl gweld ei dîm yn colli o 2-1 yn Nottingham Forest, a hynny ar ôl bod ar y blaen o 1-0.
Gwyrodd ergyd gan George Byers oddi ar droed Connor Roberts ar ôl 75 munud wrth i’r Elyrch reoli rhannau helaeth o’r gêm.
Ond tarodd Forest yn ôl o fewn pedair munud, wrth i Daryl Murphy benio’r bêl i’r rhwyd, cyn bod Molla Wague yn sgorio’r gôl fuddugol saith munud yn ddiweddarach.
‘Siom’
“Roedd yna lawer o bethau positif, hyd yn oed os yw’n anodd parhau i ddweud hynny pan nad ydych chi’n cael y canlyniad iawn ar ddiwedd y peth,” meddai Graham Potter.
“Roedd yn destun siom, yn un poenus.
“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi gwneud cymaint yn iawn yn y gêm am 80 munud.
“Fe chwaraeon ni’n dda, fe wnaethon ni greu cyfleoedd a chael gôl, ac wedi eu hatal nhw.
“Fe wnaethon ni bopeth yn iawn tan y deng munud olaf pan wnaethon ni fethu ag amddiffyn ddwywaith yn y cwrt cosbi.
“Dyna hyfrydwch y gêm, ond mae’n amlwg beth sydd rhaid i ni ei wneud yn well.
“Mae’n destun rhwystredigaeth oherwydd fe ddaethon ni yma i ennill.
“Ond rydych chi’n ennill gemau yn ôl y ffordd rydych chi’n chwarae – ac fe wnaethon ni chwarae’n dda iawn am 90% o’r gêm.
“Ond fe gawson ni ein cosbi’n drwm am y gwedill.
“Nid ni yw’r unig dîm y bydd hyn yn digwydd iddyn nhw, ond rhaid i chi barchu’r ffaith fod hyn yn rhan yma’r gêm.”