Y Seintiau Newydd 2–0 Y Barri
Mae’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru ar ôl trechu’r Barri yn y rownd gynderfynol ar Barc Latham, y Drenewydd, nos Sadwrn.
Greg Draper a Jamie Mullan a sgoriodd y goliau holl bwysig wrth i dîm Scott Ruscoe gyrraedd y ffeinal.
Dechreuodd y ddau dîm yn dda a chafwyd cyfleoedd yn y ddau ben yn chwarter cyntaf y gêm.
Peniodd Aeron Edwards fodfeddi heibio’r postyn o ddeunaw llath i’r Seintiau wedi deunaw munud cyn i Kayne McLaggon daro’r trawst i’r Barri gyda chynnig da o ongl dynn ychydig funudau’n ddiweddarach.
Dechreuodd y Seintiau reoli wedi hynny, ac er mai cael a chael a oedd hi ar adegau, fe gadwodd y Barri bethau’n ddi sgôr tan yr egwyl.
Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda’r tîm o Groesoswallt yn cael y gorau o’r gêm.
Gwastraffodd Edwards gyfle da i’w rhoi ar y blaen pan anelodd dros y trawst o ochr y cwrt cosbi ond ni fu rhaid i’r Seintiau aros yn hir.
Ddeg munud i mewn i’r ail hanner, ag yntau wedi gwastraffu cyfle gwell yn gynharach yn yr un symudiad, fe anelodd Draper ergyd gadarn i gefn y rhwyd o un llath ar bymtheg gyda chymorth gwyriad bach oddi ar Edwards.
Wnaeth y Barri ddim cynnig llawer wedi hynny ond gyda dim ond gôl ynddi roeddynt yn y gêm o hyd. A bu bron i’r eilydd, Drew Fahiya, orfodi amser ychwanegol pan darodd y postyn gyda chynnig gwych o ugain llath.
Roedd yn rhaid i’r tîm o’r de daflu cyrff ymlaen yn y munudau olaf a chawsant eu cosbi pan gwblhaodd Mullan wrthymosodiad chwim i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Seintiau yn yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Y Seintiau yn y rownd derfynol felly yn erbyn enillwyr y gêm rhwng Met Caerdydd a Chei Connah brynhawn Sul.
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Marriott, Holland, Routledge, Brobbel (Cieslewicz 90+2’), Draper (Ebbe ), Redmond, Hudson, Mullan, Lewis, Edwards
Goliau: Draper 56’, Mullan 90+1’
.
Y Barri
Tîm: Lewis, Morgan (Fahiya 73’), Hugh, Cooper, Watkins, Patton, McLaggon, Greening, Touray (Greening 83’), Cotterill (Green 73’), Hood
Cardiau Melyn: Hood 49’, Greenin 67’