Ebbsfleet 4–2 Wrecsam
Mae gobeithion Wrecsam o ennill Cynghriar Genedlaethol Lloegr fwy neu lai ar ben wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn Ebbsfleet yn Stonebrideg Road brynhawn Sadwrn.
Roedd angen tri phwynt ar y Dreigiau i gadw eu gobeithion main yn fyw ond roedd hi fwy neu lai ar ben erbyn hanner amser wedi iddynt ildio tair yn y 45 munud cyntaf.
Ni wnaeth chwaraewyr Ebbsfleet gynhesu cyn y gêm, mewn protest gan nad ydynt wedi cael eu talu’r mis hwn! Ond ni wnaeth hynny lawer o wahaniaeth wrth i’r tîm cartref ruthro dair gôl ar y blaen yn yr hanner cyntaf.
Aethant ar y blaen wedi dim ond deg munud wrth i gapten Wrecsam, Shaun Pearson, wyro’r bêl i’w rwyd ei hun a dyblodd y tîm cartref eu mantais bum munud cyn yr egwyl gyda pheniad Michael Cheek o gic gornel.
Ac roedd y gêm yn ymddangos o afael Wrecsam bedwar munud yn ddiweddarach wedi i Cheek rwydo ei ail ef a thrydedd ei dîm.
Gwnaeth Bryan Hughes dri newid ar yr egwyl ac roedd y Dreigiau’n well yn yr ail hanner. Un o’r eilyddion hynny a dynnodd un yn ôl i Wrecsam wedi pedwar munud, Stuart Beavon yn rhwydo.
Sgoriodd Pearson yn y pen iawn wyth munud o’r diwedd i roi’r Cymry yn ôl o fewn gôl ond os roddodd hynny lygedyn o obaith iddynt, wnaeth o ddim para’n hir wrth i Gozie Ugwu sicrhau’r fuddugoliaeth i Ebbsfleet bum munud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn bedwerydd yn y tabl gyda phump gêm i fynd, bump pwynt y tu ôl i Leyton Orient ar y brig, sydd wedi chwarae dwy gêm yn llai na’r Dreigiau.
Mewn geiriau eraill, mae gobeithion Wrecsam o ennill y gynghrair ar ben a bydd yn rhaid iddynt ganolbwyntio bellach ar geisio gorffen yn y tri safle uchaf, safleoedd sydd yn golygu llwybr haws trwy’r gemau ail gyfle.
.
Ebbsfleet
Tîm: Ashmore, Bush, Magri, Payne, Rance (Adams 87’), King, Wilson, Weston, Whitley (Drury 66’), Ugwu, Cheek (Graham 77’)
Goliau: Pearson [g.e.h.] 10’, Cheek 40’, 44’, Uguw 85’
Cardiau Melyn: Magri 62’, Payne 67’
.
Wrecsam
Tîm: Lainton, Roberts, Jennings, McGlashan (Oswell 46’), Carrington, Pearson, Rutherford, Wright, Agustien (Young 46’), Lawlor, Spyrou (Beavon 46’)
Goliau: Beavon 49’, Pearson 82’
Cardiau Melyn: Oswell 62’, Pearson 74’, Carrington 83’, Lawlor 90’
.
Torf: 1,523