Mae gan reolwyr pêl-droed “gyfrifoldeb” i addysgu eu chwaraewyr am y peryglon sy’n eu hwynebau yn eu bywydau pob dydd, yn ôl Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe.
Roedd yn ymateb i adroddiadau bod chwaraewyr yng nghynghreiriau Lloegr yn dechrau dod yn gaeth i’r gêm gyfrifiadurol boblogaidd ‘Fortnite’ – a chyfaddefiad un chwaraewr dienw yn y Bencampwriaeth ei fod yn hepgor sesiynau hyfforddi er mwyn chwarae’r gêm.
Fe fu alcohol, gamblo a chyffuriau yn bla ar y byd pêl-droed ers degawdau bellach, ond mae perygl y gallai’r gêm newydd hon gael yr un faint o niwed yn y pen draw.
“Dw i ddim yn gofidio am fy chwaraewyr o gwbl, ond dyw [y peryglon] ddim yn fy synnu chwaith,” meddai Graham Potter yn ei gynhadledd wythnosol i’r wasg.
“Boed e’n Fortnite neu’n rhywbeth arall…
“Dw i ddim yn gwybod a yw fy chwaraewyr yn ei chwarae ar eu ffordd i gemau. Dw i ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.
“Dw i wedi clywed amdani oherwydd mae fy mab yn naw oed ac mae e’n siarad amdani weithiau oherwydd bod ei ffrindiau’n ei chwarae.
“Ond dyw e ddim oherwydd mae gormod o saethu a thrais ynddi.”
Cadw trefn ar chwaraewyr
Tra bod Graham Potter yn dadlau ei bod yn “amhosib” rheoli’r hyn mae chwaraewyr yn ei wneud i ffwrdd o’r byd pêl-droed, mae’n dweud bod ganddo fe a rheolwyr eraill gyfrifoldeb i sicrhau bod y chwaraewyr ar y trywydd iawn mewn bywyd.
“Gallai’r diwydiant pêl-droed wneud yn well o lawer yn nhermau rheoli chwaraewyr,” meddai.
“Mae ganddyn nhw lawer o amser sbâr ac ar ddiwedd y dydd, mae’n rhaid iddyn nhw wneud rhywbeth gyda’r amser hwnnw.
“Dw i ddim yn synnu bod materion felly yn codi.
“Y clybiau, hyfforddwyr a phobol fel fi sydd â’r cyfrifoldeb o helpu chwaraewyr i ddeall beth maen nhw’n gallu ei wneud gyda’u hamser a sut maen nhw’n byw eu bywydau o ran paratoi at amser pan na fyddan nhw’n chwarae.
“Mae’n dda cael rhywbeth i feddwl amdano ar wahân i bêl-droed – pan o’n i’n chwarae, wnes i fy ngradd ac astudio, oherwydd mae bywyd yn fyr.”
…helpu, nid rheoli
Ond helpu, ac nid rheoli, yw ei rôl e a hyfforddwyr eraill, meddai.
“Dw i ddim yn meddwl y gallwch chi reoli [bywydau’r chwaraewyr] oherwydd beth bynnag maen nhw’n ei wneud, mae’n rhaid i chi eu helpu nhw.
“Maen nhw’n gwneud camgymeriadau ac mae’n rhaid i chi eu cefnogi nhw, eu gwneud nhw’n well, ond allwch chi mo’u rheoli nhw.
“Mae ganddyn nhw gymaint o amser i ffwrdd o’r byd pêl-droed fel y byddai’n amhosib.
“Ond rhaid i ni wneud iddyn nhw ddeall y cyfleoedd sydd iddyn nhw yn eu bywydau. Dydy hi ddim yn hawdd.
“Pan o’n i yn fy ugeiniau, ro’n i’n dipyn o dwpsyn! Fe wnes i gamgymeriadau drwy’r amser a dw i’n siŵr bod fy mechgyn yr un fath. Mae’n rhan o dyfu i fyny a datblygu.”
A yw’n fwy anodd cadw trefn erbyn hyn nag yr oedd yn y gorffennol, tybed?
“Mae mwy o gyfryngau cymdeithasol erbyn hyn ond pan ddechreuais i, roedd yna ddiwylliant o yfed. Byddai chwaraewyr yn mynd i’r dafarn.
“Dyna sut mae pethau wedi newid. A yw’r cyfryngau cymdeithasol yn waeth na’r dafarn, wn i ddim!”