Fydd Joe Rodon, amddiffynnwr canol ifanc Abertawe, ddim yn dychwelyd i’r cae cyn gemau Cymru yn erbyn Slofacia a Trinidad a Tobago.
Dydy e ddim wedi chwarae ers iddo dorri asgwrn yn ei droed yng ngêm yr Elyrch yn erbyn Sheffield United ym mis Ionawr.
Ond mae’r chwaraewr 21 oed ar fin dechrau ymarfer yn llawn eto.
Daw’r newyddion ar ddechrau wythnos brysur i’r Elyrch sy’n dechrau gyda thaith i Norwich nos Wener.
“Mae Joe yn dod yn ei flaen, mae e allan o’i blaster felly mae e’n gallu dechrau cynyddu pethau,” meddai Graham Potter, rheolwr yr Elyrch.
“Yr un amserlen sydd yn ei lle ag y gwnaethon ni sôn amdani o’r blaen, sef ar ôl y toriad am gemau rhyngwladol o’i safbwynt e.”
Fe fydd yr Elyrch yn parhau heb eu capten Leroy Fer, y chwaraewr canol cae sydd wedi methu â gwella mewn pryd ar ôl anafu llinyn y gâr.