Ddiwrnod ar ôl i Mike James, cadeirydd y Gweilch, gyhoeddi ei ymddiswyddiad, daeth cadarnhad gan y Scarlets na fyddan nhw’n uno â’u cymdogion wedi’r cyfan.
Mae’r Gweilch yn gwadu’r hyn y mae’r Scarlets yn ei ddweud, sef mai awgrym y Gweilch oedd uno.
Fe ddaeth i’r amlwg ddoe fod cynllun ar y gweill gan y Bwrdd Rygbi Proffesiynol i uno’r ddwy, a chreu rhanbarth yn y gogledd – yr ad-drefnu mwyaf ar y system ranbarthol ers ei sefydlu 16 o flynyddoedd yn ôl.
Yn sgil cyfarfod y Bwrdd, fe ymddiswyddodd Mike James, cadeirydd y Gweilch, gan gyhuddo Undeb Rygbi Cymru o “gam-reolaeth gatastroffig”, ac fe ddaeth datganiad gan y Gweilch yn mynnu nad oedd uno am ddigwydd.
Ymatebodd y Bwrdd drwy ddweud fod yr uno am fynd yn ei flaen, a’i fod yn “rhan ganolog” o’r hyn oedd yn cael ei gynnig i ad-drefnu’r gêm broffesiynol yng Nghymru.
Datganiad y Scarlets
Mewn datganiad heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6), dywed y Scarlets mai’r Gweilch oedd wedi mynd atyn nhw ym mis Rhagfyr yn gofyn am gael uno.
Er nad oedd y trafodaethau cychwynnol yn llwyddiannus, aeth y Gweilch at y Scarlets unwaith eto’r wythnos ddiwethaf yn gofyn am drafodaethau o’r newydd.
Mae’r Scarlets yn ategu neges y Bwrdd Rygbi Proffesiynol fod cytundeb yn ei le ar y naill ochr a’r llall erbyn Mawrth 1.
“Roedd disgwyl i hyn gael ei gynnig yng nghyfarfod y Bwrdd Rygbi Proffesiynol brynhawn dydd Mawrth, ond cawsom wybod ar ddechrau’r cyfarfod hwnnw bod y Gweilch wedi newid eu meddyliau,” meddai datganiad y Scarlets.
“Mae’r uno wedi mynd oddi ar y bwrdd.”
Maen nhw’n dweud bod y syniad o greu rhanbarth y gogledd yn deillio o’r ymrwymiad i gynnal pedair rhanbarth yng Nghymru.
“Rydym yn gwybod nad yw’r problemau o safbwynt rygbi yng Nghymru wedi mynd, ond rydym yn parhau’n ymroddedig i les y Scarlets a’r gêm yng Nghymru.”