Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod gan y clwb “wythnos fawr i ddod” yn y tymor yr wythnos hon.
Mae’r Elyrch yn drydydd ar ddeg yn y Bencampwriaeth ar ôl curo Bolton o 2-0 yn Stadiwm Liberty brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 2).
Chwe phwynt yn unig sydd rhyngddyn nhw a’r safleoedd ail gyfle, ac mae 12 gêm o’r tymor yn weddill.
Ond maen nhw’n herio Norwich, West Brom a Nottingham Forest oddi cartref cyn diwedd y mis, a’r tri thîm uwch eu pennau yn y tabl. Norwich sydd ar y brig ar hyn o bryd.
Norwich
Collon nhw o 4-1 yn erbyn Norwich ddechrau’r tymor, ac mae Graham Potter yn dweud mai nhw yw’r tîm gorau yn y gynghrair.
“Dw i ddim yn meddwl am yr hyn sy’n digwydd ym mis Mai,” meddai’r rheolwr.
“Dw i’n meddwl am y gêm nesaf, ac mae’r gêm nesaf yn un eithaf anodd oddi cartref yn Norwich (nos Wener, Mawrth 8).
“Felly, rydyn ni’n canolbwyntio 100% ar hynny.
“Nhw yw’r tîm gorau yn y gynghrair o’r hyn dw i wedi’i weld, a dydyn ni ddim mewn sefyllfa i boeni am unrhyw beth heblaw am hynny.
“Mae gyda ni wythnos fawr i ddod, felly mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ond dw i’n falch dros y chwaraewyr oherwydd maen nhw’n cael ergydion bach ac yn ymateb iddyn nhw.
“Ry’n ni’n dal yno, ry’n ni’n dal i frwydro.
“Fe wnawn ni’n gorau ym mhob gêm ac fe gawn ni weld.”