Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud mai “gwydryn hanner gwag” sydd ganddyn nhw erbyn hyn wrth iddyn nhw frwydro i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Collon nhw o 2-0 yn erbyn Wolves yn Molineux brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 2), yn dilyn dwy gôl mewn dwy funud i Diogo Jota a Raul Jimenez.
Mae’r Adar Gleision yn ddeunawfed yn y tabl, ddau bwynt islaw’r safleoedd diogel, ar ôl colli tair gêm o’r bron. Yn y cyfnod hwnnw, maen nhw wedi ildio deg gôl.
Maen nhw’n wynebu pedwar o’r chwe thîm uchaf yn y naw gêm sy’n weddill o’r tymor.
‘Llwm’
“Mae’n edrych yn llwm arnon ni ar hyn o bryd ond rydyn ni wedi cael sawl sefyllfa tra fy mod i wedi bod yma dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, ac mae’r rhai sy’n datgan llymder wedi bod yno,” meddai Neil Warnock.
“Mae’r gwydryn yn hanner gwag ond rhaid i ni ddangos ychydig o ddewrder nawr.
“Os ydyn ni’n ildio goliau felly, dydyn ni ddim yn mynd i guro unrhyw un, ond mae’n gêm wahanol yr wythnos nesaf.
“Dydyn ni ddim yn rhoi cyfle i ni ein hunain.
“Mae angen i ni fynd un gôl ar y blaen am unwaith, yn hytrach na lladd ein hunain fel yna ac ildio dwy gôl. Goliau twp.”