Mae Sam Warburton, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, yn dweud y byddai’n “synnu’n fawr” pe bai Warren Gatland yn hyfforddi Lloegr ar ôl gadael Cymru.
Mae adroddiadau y gallai’r hyfforddwr o Seland Newydd olynu’r Awstraliad Eddie Jones.
Bydd Warren Gatland yn gadael ei swydd gyda Chymru ar ôl Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni, ond mae Sam Warburton yn credu y gallai gael ei benodi’n hyfforddwr ar y Llewod ar gyfer eu taith i Dde Affrica yn 2021.
Mae Warren Gatland eisoes wedi curo Awstralia a Seland Newydd gyda’r Llewod.
‘Cymro anrhydeddus’
“Dw i ddim yn credu y byddai’n hyfforddi Lloegr,” meddai Sam Warburton.
“Nid na fyddai e eisiau gwneud nac yn mwynhau’r her, ond dw i jyst ddim yn ei weld e’n digwydd.
“Mae e fel Cymro anrhydeddus nawr! Pe bai’n digwydd, fe fyddai wir yn fy synnu, a bod yn onest, a dw i’n bersonol ddim yn gallu ei weld e’n digwydd.”
Ond mae’n dweud y byddai’r Llewod yn “despret” i’w benodi eto yn sgil ei lwyddiant.
“Mae ganddyn nhw brif weithredwr newydd yn ei le nawr, ac fe fydd e’n gwybod yn well na neb fod rhaid i chi gadw asgwrn cefn y tîm hyfforddi yr un fath.
“Byddan nhw eisiau rhywfaint o barhad.
“Bydd ganddyn nhw rywfaint o barhad o ran y chwaraewyr ond rhaid i chi gael parhad o safbwynt rheoli, a phwy gwell na Warren?”
Gobeithion Cymru yn y Chwe Gwlad
Yn y cyfamser, mae gan Gymru gemau yn erbyn yr Alban ac Iwerddon cyn y gallan nhw gael eu coroni’n bencampwyr y Chwe Gwlad.
Sam Warburton oedd yn gapten ar y tîm diwethaf o Gymru i ennill y Gamp Lawn, yn 2012.
“Dw i’n credu eu bod nhw mewn lle gwych,” meddai.
“Ro’n i’n credu cyn y gêm yn erbyn Lloegr pe bai Cymru’n ennill y bydden nhw’n mynd ati go iawn.”