bertawe 2-0 Stoke
Roedd gôl gynnar gan Scott Sinclair a gôl hwyr gan Danny Graham yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Abertawe heddiw. Ond mae llawer o ddiolch yn mynd i’w hamddiffynwyr a lwyddodd i gadw llechen lân arall ar y Liberty.
Dychwelodd Wayne Routledge i’r tîm yn lle Leon Britton ac roedd yr asgellwr wedi creu argraff ar ôl wyth munud yn unig wrth iddo dderbyn y bêl gan Joe Allen cyn ennill cic o’r smotyn wrth i Ryan Shawcross ei lorio yn y cwrt cosbi.
Gosododd Sinclair y gic yn daclus yng nghornel y rhwyd tu hwnt i Asomir Begavic yn y gôl i’r ymwelwyr.
Er gwaethaf y dechrau da hwn gan yr Elyrch daeth Stoke fwyfwy mewn i’r hanner cyntaf fynd rhagddo a bu rhaid i Michel Vorm arbed yn wych o gynnig Jon Walters.
Cafodd Delap a Crouch gyfleoedd i Stoke hefyd ac efallai fod Abertawe ychydig yn ffodus i fod ar y blaen ar yr hanner.
Stoke yn closio wedi’r hanner
Daeth Stoke yn agosach fyth at sgorio wedi’r egwyl.
Enillodd yr eilydd Cameron Jerome gic rydd mewn safle peryglus diolch i drosedd Ashley Williams arno. Cymerodd Glen Whelan y gic a chrymanodd hi’n daclus heibio’r mur amddiffynnol ac heibio i Vorm ond yn erbyn y postyn.
Efallai mai Stoke oedd y tîm cryfaf ond wrth iddynt hwy orfod pwyso am y gôl i ddod yn gyfartal rhoddwyd mwy o le i Abertawe a Sinclair yn enwedig wrthymosod. A manteisiodd Danny Graham yn llawn ar y lle hwnnw gyda phum munud yn weddill er mwyn sgorio’i gôl gyntaf i Abertawe – y blaenwr a symudodd i’r Liberty o Watford dros yr haf yn codi’r bêl yn gelfydd dros Begovic i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Gorfoledd i’r tîm o Gymru felly ond siom i’r Cymro Tony Pulis, rheolwr Stoke.
“Doedden ni ddim yn haeddu colli o 2-0 heddiw” Meddai Pulis.
Roedd o’n ddechrau araf yn y chwarter awr cyntaf ond wedi hynny dwi’n meddwl mai ni oedd y tîm oedd yn pwyso… ond gwnaethom gamgymeriadau amddiffynnol elfennol a chawsom ein cosbi gan Abertawe.”
Efallai nad oedd hwn yn berfformiad cartref perffaith gan yr Elyrch ond roedd o’n ddigon i’w codi i hanner uchaf yr gynghrair .