Wythnos yn unig ers iddo roi’r gorau i fod yn gadeirydd ar Glwb Pêl-droed Abertawe, mae adroddiadau bod Huw Jenkins eisiau prynu’r clwb.
Mae’r Sun yn adrodd bod y dyn busnes lleol yn trafod y sefyllfa gyda chriw o Arabiaid.
Yr Americanwyr Steve Kaplan a Jason Levien sy’n berchen y clwb ar hyn o bryd, ond mae’r cefnogwyr yn awyddus i’w gweld nhw’n mynd yn dilyn ffenest drosglwyddo siomedig, rai misoedd yn unig ers iddyn nhw ddisgyn i’r Bencampwriaeth.
Roedd protest yn eu herbyn yn y ddinas ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 9).
Yn ystod y ffenest drosglwyddo fis diwethaf, fe fu bron i’r clwb werthu Daniel James i Leeds, ac roedd pryderon fod y capten Leroy Fer am symud at Aston Villa. Mae adroddiadau mai Huw Jenkins oedd yn bennaf gyfrifol am gadw’r ddau ar y Liberty.
Ffrae
Wrth gyhoeddi ei ymadawiad yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Huw Jenkins, oedd wedi bod yn y swydd ers 2002, fod y clwb yn symud i’r cyfeiriad anghywir o dan yr Americanwyr.
Ond fe ddywedodd na fyddai’n dychwelyd i’r clwb am “gryn amser”.
Mae e wedi cael ei feirniadu ers tro am werthu rhai o chwaraewyr amlyca’r clwb am resymau ariannol – ond mae’n dweud iddo gael ei orfodi i wneud hynny.
Prynodd yr Americanwyr 68% o gyfrannau’r clwb am oddeutu £90m yn 2016.