Malky Mackay yn flin (o wefan clwb Watford)
Hull City 2 Caerdydd 1
Roedd yna gôl wych gan chwaraewr ifanc a phenderfyniad dadleuol gan y dyfarnwr wrth i Gaerdydd lithro i lawr i’r wythfed lle yn y Bencampwriaeth.
Pe bai’r Adar Glas wedi cael cic o’r smotyn yn yr ail hanner, fe fydden nhw wedi mynd ar y blaen ac fe allai hynny fod wedi newid y gêm ac fe fu’r rheolwr, Malky Mackay, yn protestio wrth y dyfarnwr yn union wedi’r chwiban ola’.
Mewn hanner cynta’ siomedig, Hull a gafodd yr unig gôl tua chwe munud cyn yr egwyl, trwy Matty Fryatt.
Erbyn hynny, roedd y blaenwr Kenny Miller hefyd wedi gorfod gadael y cae oherwydd anaf i’w goes, gyda’r bachgen 17 oed, Joe Ralls, yn dod yn ei le.
Gôl i Ralls
Yr eilydd ifanc a gafodd gôl Caerdydd ar ôl tua chwarter awr yn yr ail hanner. Pan ddaeth y bêl allan ato, fe sgoriodd gyda foli o 30 llath.
Dyna pryd y daeth y penderfyniad dadleuol – ar y dechrau fe roddodd y dyfarnwr gic o’r smotyn i Gaerdydd am drosedd yn erbyn Filip Kiss, cyn newid ei feddwl ar ôl siarad gyda’r llumanwr.
Ar y pryd, Caerdydd oedd yn rheoli’r gêm ac fe allai Hull fod wedi chwalu. Yn hytrach na hynny, fe ddaethon nhw’n ôl a’u heilydd nhwthau, Nick Barmby, yn cael gôl gyda’i gyffyrddiad cynta’.