Rhys Priestland - ymateb ar y pryd
Fe allai Cymru gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd heb orfod chwarae tîm o Hemisffer y De.
Os na fydd canlyniadau annisgwyl, fe fydd hanner ucha’r gystadleuaeth yn ornest rhwng timau Ewrop.
Os bydd Iwerddon yn curo’r Eidal fory, fe fydd Cymru’n debyg o’u hwynebu nhw yn rownd yr wyth ola’ – dim ond tanchwa yn erbyn Fiji fyddai’n newid hynny.
Fe fyddai enillwyr y gêm honno wedyn yn wynebu enillwyr yr ornest rhwng Lloegr a Ffrainc, ar ôl i’r Saeson grafu trwodd yn erbyn yr Alban heddiw o 16-12.
Yn hanner isa’r ornest, y tebygrwydd yw y bydd De Affrica’n chwarae Awstralia a Seland Newydd yn wynebu’r Ariannin.
Meddai Priestland
Mae maswr newydd Cymru’n dweud y bydd rhaid iddyn nhw ymateb ar y pryd i Fiji yn yr hyn y mae’n ei alw yn “gêm fwya’i yrfa”.
Er y byddai’n rhaid i Gymru golli o hewl i Fiji i fethu â mynd ymlaen, roedd Rhys Priestland yn pwysleisio bod rhaid i’r chwaraewyr osgoi rhoi gormod o bwysau arnynnhw eu hunain.
“R’yn ni’n hyderus wedi’r haf a sut yr ’yn ni wedi chwarae hyd yn hyn, felly gobeithio y gallwn ni fynd mas a chwarae’r hyn sydd o’n blaenau ni a pherfformio’n dda,” meddai ar wefan Undeb Rygbi Cymru.
“R’yn ni i gyd yn chwaraewyr rygbi da ac yn gallu darllen beth sydd o’n blaenau ni, felly mae angen i ni chwarae’r math yna o gêm – rhaid i ni beidio â mynd i’n cregyn oherwydd ei bod hi’n gêm fawr.”