Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru am wneud newidiadau sylweddol i’r ffordd y mae’n cael ei rhedeg, gan symleiddio’r ffordd mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.

Yn ystod cyfarfod ar y mater ddydd Iau diwethaf (Ionawr 29), roedd cefnogaeth frwd gan aelodau’r Gymdeithas o blaid y newidiadau.

Mae aelodau’r Gymdeithas yn cynnwys 155 o glybiau, saith cynghrair, chwe chymdeithas ardal a 35 o aelodau cyngor.

Fe fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithredu system reoli newydd, sydd yn mynd o dan yr enw ‘COMET’.

System ‘COMET’

Daw’r system newydd yn rhan o ‘Raglen Foderneiddio’r Cymdeithas Bêl-droed Cymru’ fydd yn rheoli’r gymdeithas yn fwy effeithiol, ochr yn ochr a FIFA ac UEFA.

Fel rhan o’r newidiadau bydd y Gymdeithas yn:

    Cyflwyno Bwrdd o Gyfarwyddwyr, a fydd yn canolbwyntio’n fanwl ar arwain y Gymdeithas yn gorfforaethol ac o ran busnes.

    Bydd Cyngor y Gymdeithas yn parhau i fod yn gyfranddalwyr ac yn gorff goruchaf y Gymdeithas a chynrychiolwyr Clybiau sy’n aelod o’r Gymdeithas gan ganolbwyntio’n fanwl ar arwain y gêm.

    Bydd hyd tymor aelodau cyngor y Gymdeithas yn ymestyn o 3 i 4 blynedd yn unol ag UEFA a FIFA, a hynny o Awst 1, 2019.

    Bydd tymor y Llywydd a’r Is-Lywydd yn cael ei ymestyn i ddau dymor o 4 blynedd er mwyn rhoi’r cyfle a’r amser i gwblhau a chyflawni prosiectau allweddol.

“Datblygu pêl-droed yng Nghymru”

Yn ôl Prif Weidredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, maen nhw’n “hynod falch” o ennill cefnogaeth Aelodau i “ddatblygu pêl-droed yng Nghymru ar draws pob lefel”.

“Rydw i wrth fy modd bod y Gymdeithas, ei chyngor a’i haelodau yn rhoi’r datblygiadau a’r newidiadau cadarnhaol a blaengar hyn ar waith ar draws pêl-droed yng Nghymru er mwyn datblygu a buddsoddi ymhellach.”

Daw’r newidiadau o ganlyniad i ganfyddiadau’r ‘Gweithgor Llywodraethu’ a sefydlwyd ddechrau 2018 er mwyn edrych ar strwythurau llywodraethu’r gymdeithas.