Mae corff i’w weld yng ngweddillion yr awyren fechan oedd yn cludo’r pêl-droediwr Emiliano Sala, yn ôl y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB).
Dywedodd yr AAIB bod y lluniau fideo wedi cael eu cymryd gan gamera tanddwr wrth chwilio’r safle ar ôl i weddillion yr awyren gael eu darganfod ar wely’r môr ddydd Sul (3 Chwefror).
Ar ôl archwilio’r deunydd sydd wedi cael ei ffilmio mae’r AAIB wedi cadarnhau mai gweddillion yr awyren Piper Malibu sydd wedi’i ddarganfod, ar ôl iddi ddiflannu mewn tywydd gwael ger Guernsey ar 21 Ionawr. Roedd yn teithio o Nantes i Gaerdydd.
Mae’r lluniau’n dangos bod corff un person i’w weld yn yr awyren.
Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud hyd yn hyn ynglŷn â chodi’r gweddillion o’r dŵr.
Mewn datganiad dywedodd yr AAIB eu bod nhw yn ystyried y camau nesaf ac yn ymgynghori gyda theuluoedd Emiliano Sala, 28 oed, a’r peilot David Ibbotson, 59, ynghyd a’r heddlu.
Mae Horacio Sala, tad Emiliano Sala, wedi bod yn siarad am ei dristwch dwys ar ôl clywed am y datblygiadau diweddara’ a dywedodd ei fod fel “hunllef”
Fe lwyddodd teulu Emiliano Sala i godi mwy na £260,000 i dalu am dimau chwilio preifat i geisio dod o hyd i’r awyren.