Mae clwb pêl-droed Leeds yn parhau i drafod gydag Abertawe ynglŷn ag arwyddo’r Cymro, Dan James.
Bydd disgwyl i’r trafodaethau barhau at ddiwedd heddiw (Dydd Iau, Ionawr 31) wrth i ffenestr trosglwyddo chwaraewyr ddod i’w derfyn.
Y son yw y bydd cytundeb gwerth £2m yn cael ei greu gyda £10m arall yn cael ei ychwanegu dros amser.
Fe sgoriodd Dan James yn gêm gyfartal 3-3- yn erbyn Birmingham ar nos Fawrth (Ionawr 29).
Mae gan yr asgellwr, sydd hefyd yn chwarae fel amddiffynnwr ar y chwith, un cap i Gymru ar ôl cychwyn i dîm Ryan Giggs pan gollon nhw o 1-0 yn erbyn Albania ym mis Tachwedd y llynedd.
Mae rheolwr Leeds, Marcelo Bielsa, yn awyddus i gryfhau ei garfan mewn gobaith i ddyrchafu’r clwb yn ôl i Uwch Gynghrair Lloegr – rhywbeth fyddai’n sicr ar feddwl Dan James.
Ni fyddai hyn yn newyddion da i Abertawe sy’n eistedd yn 11eg yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd.
Mae son hefyd bod eu hymosodwr Wilfried Bony yn agos i ymuno a dim Al Arabi yn Qatar ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.