Mae ymosodwr Cymru a Burnley, Sam Vokes, ar ei ffordd i Stoke City am ffî o £7m, yn ol adroddiadau.

Os oes cytundeb yn cael ei arwyddo, bydd yr ymosodwr 29 oed yn ymuno a dau o’i gyd Gymru – y canolwr Joe Allen a’r amddiffynnwr Ashley Williams – yn stadiwm y Britannia.

Roedd y tri ohonynt wedi chwarae rhan ganolog yn llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016.

Yn ôl yr adroddiadau byddai’r cytundeb yn gweld ymosodwr Stoke City, Peter Crouch, yn mynd y ffordd arall ac yn ymuno a Burnley.

Mae Stoke City yn chwarae yng nghynghrair y Bencampwriaeth, ac yn eistedd yn yr 15fed safle ar hyn o bryd.

Hwn yw diwrnod olaf ffenestr trosglwyddo chwaraewyr y mis hwn, ac mae’n debygol y bydd cytundeb yn cael ei greu cyn diwedd y dydd.