Mae ymchwilwyr o wledydd Prydain yn credu eu bod nhw wedi dod o hyd i ddau glustog sy’n gysylltiedig â’r awyren a ddiflannodd tra oedd yn cludo Emiliano Sala dros wythnos yn ôl.

Yn ôl Cangen Ymchwilio Damweiniau’r Awyr (AAIB), maen nhw wedi cael gwybod gan swyddogion o Ffrainc fod darn o glustog wedi cael ei ganfod ar draeth ger Surtainville ar Benrhyn Cotentin.

Cafodd ail glustog ei ganfod yn yr un ardal yn ddiweddarach yn y dydd hefyd, medden nhw.

Erbyn hyn, mae’r AAIB yn canolbwyntio’r chwilio ar ardal benodol o’r Sianel, ac maen nhw hefyd wedi comisiynu arbenigwyr i chwilio o dan y dŵr.

Dydyn nhw ddim wedi cadarnhau union leoliad yr ardal sy’n cael blaenoriaeth – sy’n bedair milltir sgwâr o ran maint, medden nhw – ond maen nhw’n ffyddiog mai dyma’r ardal lle tarodd yr awyren wyneb y dŵr.

Dywed ymhellach nad oes disgwyl i’r chwilio ddechrau tan ddiwedd y penwythnos, a hynny oherwydd tywydd garw.

Cefndir

Fe ddiflannodd ymosodwr newydd yr Adar Gleision a’r peilot, David Ibbotson, tra oedden nhw’n teithio ar fwrdd Piper PA-46 Malibu ar nos Lun, Ionawr 21.

Roedd Emiliano Sala ar ei ffordd o Nantes yn Llydaw i Faes Awyr Caerdydd, ond ar ôl derbyn cais i hedfan yn is, fe gollodd rheolwyr traffig Jersey gysylltiad â’r awyren dros y Sianel.

Mae tîm gwahanol o ymchwilwyr, sydd wedi cael eu comisiynu gan deulu’r pêl-droediwr o’r Ariannin, hefyd yn chwilio am yr awyren goll.

Maen nhw’n canolbwyntio ar ddarn o’r môr sydd i’r gogledd o ynys Alderney.