Abertawe 3–3 Birmingham
Achubodd Oli McBurnie bwynt i Abertawe yn erbyn deg dyn Birmingham yn y gêm Bencampwriaeth ar y Liberty nos Fawrth.
Roedd hi’n ymddangos bod yr ymwelwyr am ddychwelyd o dde Cymru gyda’r pwyntiau i gyd er gwaethaf chwarae dros hanner y gêm gydag un dyn yn llai. Ond achubodd yr Elyrch bwynt gyda gôl yn hwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Aeth Abertawe ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan rwydodd Daniel James yn dilyn un-dau taclus gyda McBurnie.
Roedd Birmingham yn gyfartal ddeg munud cyn yr egwyl diolch i Jacques Maghoma ond roedd yr ymwelwyr i lawr i ddeg dyn erbyn hanner amser yn dilyn cerdyn coch i Kristian Pedersen, y gŵr o Ddenmarc yn derbyn ail felyn am drosedd ar McBurnie.
Roedd angen arbediad gwych gan Lee Camp i atal Matt Grimes rhag rhoi’r Elyrch ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ond fe ddaeth gôl i’r tîm cartref toc wedi’r awr gyda pheniad McBurnie wedi gwaith da’r eilydd ar yr asgell, Jefferson Montero.
Gôl i lawr a dyn i lawr, wnaeth Birmingham ddim rhoi’r ffidl yn y to. Roeddynt yn gyfartal o fewn dau funud diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Grimes, ac ar y blaen ugain munud o’r diwedd wedi i Che Adams grymanu ergyd berffaith i’r gornel bellaf.
Pwysodd Abertawe wedi hynny gan lwyddo i achub pwynt yn y diwedd diolch i ail McBurnie o’r noson, yr Albanwr yn rhwydo yn y pedwerydd munud o amser brifo yn dilyn peniad da Mike van der Hoorn ar draws y cwrt cosbi.
Mae’r canlyniad yn cadw tîm Graham Potter yn yr unfed safle ar ddeg, bwynt o flaen Birmingham.
.
Abertawe
Tîm: Mulder, Naughton, van der Hoorn, Carter-Vickers, Roberts (McKay 71’), Fer (Fulton 16’), Grimes, Celina, Dyer (Montero 56’), McBurnie, James
Goliau: James 22’, McBurnie 65’
Cardiau Melyn: Roberts 30’, James 45+5’
.
Birmingham
Tîm: Camp, Colin, Morrison, Dean, Pedersen, Jota, C. Gardner (Harding 45’), Kieftenbeld, Maghoma (G. Gardner 84’), Adams, Jutkiewicz (Vassell 67’)
Goliau: Maghoma 35’, Grimes [g.e.h.] 67’, Adams 71’
Cardiau Melyn: Pedersen 31’, 45+1’, Kieftenbeld 38’ Maghoma 45+2’, Colin 60’, Adams 90+1’
Cerdyn Coch: Pedersen 45+1’
.
Torf: 18,194