Arsenal 2–1 Caerdydd
Colli fu hanes Caerdydd yn eu gêm gyntaf ers diflaniad eu blaenwr newydd, Emiliano Sala, wrth iddynt deithio i Stadiwm Emirates i wynebu Arsenal nos Fawrth.
Mae’r Adar Gleision yn aros yn safleoedd disgyn Uwch Gynghrair Lloegr wedi i goliau Aubameyang a Lacazzette ei hennill hi i’r Gunners.
Cafwyd perfformiad disgybliedig da gan Gaerdydd mewn hanner cyntaf di sgôr ond roedd Arsenal yn fwy o fygythaid ar ôl troi.
Aeth y tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner gyda chic o’r smotyn Pierre-Emerick Aubameyang yn dilyn trosedd Bruno Ecuele Manga ar Sead Kolasinac.
Dyblodd Alexandre Lacazzette y fantais gyda gôl unigol dda saith munud o’r diwedd ac roedd gan Gaerdydd fynydd i’w ddringo.
Crymanodd Nathaniel Mendez-Laing gôl gysur hyfryd i gefn y rhwyd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi i dîm Neil Warnock.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn y tri isaf, yn y deunawfed safle.
.
Arsenal
Tîm: Leno, Lichtsteiner (Jenkinson 60’), Mustafi, Monreal, Kolasinac, Torreira, Elneny (Iwoni 45’), Ozil (Ramsey 76’), Guendouzi, Lacazette, Aubameyang
Gôl: Aubameyang [c.o.s.] 66’, Lacazette 83
Cardiau Melyn: Monreal 29’, Guendouzi 45+2’, Lacazzette 81’
.
Caerdydd
Tîm: Etheridge, Peltier, Ecuele Manga, Bamba, Bennett, Paterson, Arter (Harris 81’), Gunnarsson, Ralls, Reid (Mendez-Laing 70’), Niasse (Zohore 73’)
Gôl: Mendez-Laing 90+3’
Cardiau Melyn: Paterson 36’, Arter 63’, Ralls 90’
.
Torf: 59,933