Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi galw am gymorth gan gyfranddalwyr ar ôl i’r cyflenwad dŵr a thrydan yn Stadiwm Nantporth gael ei ddiffodd.

Mewn datganiad, dywed y clwb eu bod nhw wedi derbyn bil trydan gwerth £16,000 am y cyfleusterau sy’n cael eu rhannu rhyngddyn nhw a Nantporth CIC, a bod hynny wedi arwain at ddiffodd y cyflenwad.

Ond er eu bod nhw o’r farn bod “mwyafrif” y gost o ganlyniad i’r ffaith bod Nantporth CIC ar hyn o bryd yn y broses o newid cyflenwr ar gyfer goleuadau 3G y cae, maen nhw’n ychwanegu bod y bil, “yn anghyfiawn”, yn eu henw nhw.

Cafodd cyflenwad dŵr y safle ei ddiffodd wedyn o ganlyniad i fil gwerth £9,000 a gafodd ei dderbyn gan y clwb hefyd.

Er bod trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd er mwyn dod i ddatrysiad ynghylch y ddau fil, mae maint dyledion y clwb bellach yn £80,000, meddai’r datganiad ymhellach.

“Mae’r clwb pêl-droed yn galw ar gyfranddalwyr i helpu gyda’r sefyllfa ariannol bresennol ac ymdrechion y clwb er mwyn bod yn barod ar gyfer y gem ddydd Sadwrn yma yn erbyn Clwb Pêl-droed Gresffordd,” meddai llefarydd ar ran y clwb.