Mae’r gwefanau cymdeithasol yn boeth ben bore heddiw, wrth i gefnogwyr pêl-droed drafod dyfodol clwb pêl-droed Bangor.

Neithiwr, fe gafodd fan wen cwmni ‘Lock Stock’ ei sbotio ar y safle, nwyddau’n cael eu cario oddi yno, cyn bod gatiau’r stadiwm a’r tir o’i gwmpas yn cael eu cloi.

Fe gafodd ymarfer yr Academi oedd i fod i ddigwydd neithiwr (nos Lun, Ionawr 28) wedi’i ganslo oherwydd fod y cyflenwad trydan eisoes wedi’i ddiffodd; ac mae cynhadledd i chwaraewyr gitâr oedd i fod i gael ei chynnal yn Nantporth heddiw, wedi’i symud i le arall.

Yn ôl sylw ar fforwm cefnogwyr Bangor, sydd yn agored i bawb, mae’r clwb wedi cysylltu â chlwb pêl droed Y Felinheli, dir milltir i lawr y lôn, i’w holi os oes modd defnyddio eu cae ar gyfer eu gem yn erbyn Gresfordd ddydd Sadwrn (Chwefror 2).

Ond mae Clwb Pêl-droed y Felinheli yn dweud wrth golwg360 nad yw hyn yn wir.

Y ffeithiau

Does dim cyhoeddiad swyddogol wedi cael i wneud gan y clwb, ond mae’n nhw’n dal i ymateb i’r pryderon ar Twitter ynghylch â’r sïon.

Mae pethau wedi bod yn ansefydlog iawn yn Nanporth dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn rhaid i’r clwb ddisgyn o Uwch Gynghrair Cymru i Gynghrair Cymru ar ôl methu a datgelu gwybodaeth ariannol y llynedd.

Nawr, mae si ar led fod y clwb eisoes yn ystyried disgyn ymhellach – i Gynghrair Gwynedd – ond does dim cadarnhad o hynny.