Mae teulu a ffrindiau Emiliano Sala wedi bod ar daith awyren uwchben yr ardal lle diflannodd yr awyren a oedd yn cludo’r pêl-droediwr union wythnos yn ôl (dydd Llun, Ionawr 21).

Roedd y grŵp, a oedd yn cynnwys mam Emiliano Sala, Mercedes, a’i chwaer, Romina, yn teithio mewn awyren Dornier 228-212.

Ar ôl cychwyn ar y daith o Faes Awyr Guernsey, fe wnaethon nhw amgylchynu ynys Alderney, sydd i’r gogledd-ddwyrain o Guernsey.

Fe ddiflannodd ymosodwr newydd yr Adar Gleision a’r peilot, David Ibbotson, tra oedden nhw’n teithio ar fwrdd Piper PA-46 Malibu.

Fe gychwynnodd taith yr awyren, a oedd ar y ffordd i Faes Awyr Caerdydd, o Nantes yn Llydaw am 7:15yh nos Lun, ond ar ôl gwneud cais i hedfan yn is, fe gollodd rheolwyr traffig Jersey gysylltiad â hi dros y Sianel.

Daeth y chwilio swyddogol am yr awyren i ben ddydd Iau (Ionawr 24), er gwaethaf galwadau gan aelodau o deulu Emiliano Sala, ynghyd â ffigyrau amlwg yn y byd pêl-droed a gwleidyddol yn yr Ariannin, i barhau.

Dros y penwythnos, cafodd y targed o £300,000 ei gyrraedd er mwyn talu am gychod preifat i ymgymryd â’r chwilio.