Mae disgwyl i reolwr tîm pêl-droed Dinas Caerdydd, Neil Warnock, annerch cynhadledd newyddion prynhawn ma (dydd Llun, 28 Ionawr) wrth i deulu’r ymosodwr Emiliano Sala barhau i chwilio am yr awyren aeth ar goll wythnos yn ôl wrth ei gludo i Gaerdydd.
Roedd teulu’r chwaraewr pêl-droed o’r Ariannin wedi llwyddo i gyrraedd eu targed i godi £300,000 ddydd Sul er mwyn talu am gychod preifat i chwilio am Emiliano Sala, 28 oed ger Ynysoedd y Sianel.
Fe ddiflannodd yr awyren fechan nos Lun diwethaf (Ionawr 21) wrth deithio o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd.
Daeth y chwilio swyddogol am Emiliano Sala a’r peilot David Ibbotson i ben ddydd Iau (Ionawr 24). Fe fu teulu’r chwaraewr, ynghyd a chwaraewyr pêl-droed o’r Ariannin Lionel Messi, Diego Maradona a Sergio Aguero, a Mauricio Macri, Prif Weinidog y wlad, yn galw am barhau i chwilio am y ddau.
Roedd chwaer Emiliano Sala a’i fam wedi cyrraedd Guernsey ddydd Sul (27 Ionawr). Mae’r teulu wedi diolch i bawb am eu haelioni.
Roedd yr Adar Gleision wedi talu £15 miliwn am yr ymosodwr.
Mae disgwyl i gêm Caerdydd yn erbyn Arsenal fynd yn ei blaen nos yfory (Ionawr 29).
Bydd y chwaraewyr yn gwisgo cennin pedr, tra bydd y ddau gapten yn gosod blodau ar y cae cyn y gêm.
Mae nifer o dimau’r Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth eisoes wedi talu teyrnged i’r ddau.