Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi lladd ar y ffordd y mae Llywodraeth Prydain yn mynd ati i sicrhau cytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe gafodd ei holi am effaith Brexit ar obeithion y clwb o ddenu chwaraewyr ar drothwy Mawrth 29, y dyddiad swyddogol ar gyfer ymadael.
Mae gan glybiau yng Nghymru a Lloegr tan ddiwedd y mis hwn i arwyddo chwaraewyr newydd cyn bod y ffenest yn cau.
“Dw i’n credu y bydd yn hawdd [denu chwaraewyr] unwaith mae’r wlad yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud,” meddai yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Huddersfield.
“Mae unrhyw ffenest drosglwyddo’n anodd i fi, nid yr un yma’n unig.
“Dw i ddim yn gwybod pam nad yw gwleidyddion yn gwneud yr hyn mae’r wlad am iddyn nhw ei wneud, os ydw i’n onest.
“Fe gawson nhw refferendwm a nawr rydyn ni’n gweld amryw wleidyddion a phawb arall yn rhoi eu traed ynddi.
“Pam gawson ni refferendwm yn y blydi lle cynta’?
“Alla i ddim aros i adel, os ydw i’n onest. Dw i’n credu y byddwn ni’n well o lawer allan o’r blydi peth. Ym mhob agwedd. O safbwynt pêl-droed hefyd, wrth gwrs. I’r diawl â gweddill y byd.”
Sylwadau beirniadol
Mae sylwadau Neil Warnock yn sicr o fod yn sioc i rai o fewn y clwb.
Mae’r perchennog Vincent Tan a’r prif weithredwr Ken Choo yn dod o Malaysia, a chafodd y cadeirydd Mehmet Dalman ei eni ar ynys Cyprus.
Mae gan Gaerdydd chwaraewyr o Ganada, Denmarc, Gabon, Gwlad yr Iâ, y Côte d’Ivoire, y Ffilipinas, Iwerddon a Sbaen.
“Mae gyda ni dri phrif darged nawr,” meddai am y chwaraewyr y mae’n gobeithio eu denu i Gaerdydd.
“Ond roedden ni’n meddwl ein bod ni wedi arwyddo chwaraewr canol cae yr wythnos ddiwethaf, ond methodd hynny.
“Dw i ddim yn credu y gallwch chi ddweud unrhyw beth tan eu bod nhw’n eistedd yn eich swyddfa’n llofnodi’r papurau.
“Mae asiantiaid yn cael blas ar rywle arall, gyda chytundebau gwell. Dyna’r gwaith rydyn ni ynddo ar hyn o bryd.”