Mae Hayley Hartson, chwaer cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru John Hartson, yn dweud iddi ddioddef dwy flynedd a hanner o “uffern” ar ôl cael ei harestio fel rhan o ymchwiliad i fetio ar gemau pêl-droed.
Mae hi bellach yn gwybod na fydd hi’n wynebu cyhuddiadau ar ôl cael ei harestio yn sgil patrymau betio anarferol ar gêm rhwng Port Talbot a’r Rhyl ym mis Ebrill 2016.
Roedd ei mab, James, yn chwarae i dîm Port Talbot wrth iddyn nhw golli o 5-0 yn erbyn tîm Y Rhyl, oedd eisoes wedi gostwng o’r Uwch Gynghrair ar ôl methu â sicrhau buddugoliaeth mewn 17 o gemau cyn hynny.
Roedd Hayley Hartson wedi betio £50 y byddai’r Rhyl ar y blaen ar yr egwyl ac ar ddiwedd y gêm, gan ennill £400.
‘Wnes i ddim byd o’i le’
“Pe bawn i’n gwybod ei bod wedi cael ei threfnu ymlaen llaw, byddwn i wedi rhoi £10,000 arni!” meddai wrth y Sunday Mirror, a’i thafod yn ei boch.
Ond mae hi hefyd yn dweud bod yr heddlu wedi mynd â ffonau symudol, iPad a chyfrifiadur o’i chartref fel rhan o’r ymchwiliad.
“Dw i ddim wedi gallu cael swydd, dw i wedi goddef sylwadau slei yn cymryd fy mod i’n euog.
“Nawr, dw i eisiau i bobol wybod na wnes i ddim byd o’i le.”