Y Bala 1–3 Caernarfon                                                                      

Tarodd Caernarfon yn ôl i guro’r Bala ar Faes Tegid yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.

Roedd yr ymwelwyr gôl i ddim ar ei hôl hi ar hanner amser cyn i goliau ail hanner Thomas, Brookwell a Craig gipio’r tri phwynt i’r Caneris.

Hanner Cyntaf

Aeth y Bala ar y blaen wedi dim ond pedwar munud, Henry Jones yn manteisio ar gamgymeriad gwael gan Jamie Crowther yn chwarae allan o safle yng nghanol yr amddiffyn, cyn anelu’r bêl trwy goeasau Alex Ramsay.

Roedd y dechrau cyffrous yn arwydd o’r hyn a oedd i ddod wrth i’r ddau dîm gael llu o gyfleoedd mewn hanner cyntaf hynod agored.

Anelodd Steven Tames gyfle da i ddyblu’r fantais dros y trawst cyn i Darren Thomas benio’n syth at Ashley Morris yn y gôl yn y pen arall.

Methodd Jamie Breese a chanfod rhwyd agored i Gaernarfon hanner ffordd trwy’r hanner cyn i Chris Venables wneud yn union yr un peth yn y pen arall funud yn ddiweddarach!

Gwnaeth Ramsay arbediad da i atal Tames wedi hynny wrth iddi aros yn un gôl i ddim wrth droi er gwaethaf yr holl gyfleodd.

Ail Hanner

Dechreuodd Caernarfon yr ail hanner yn dda a bu rhais i Morris fod yn effro yn y gôl i atal Cai Jones.

Roedd y Caneris yn haeddu gôl ac fe ddaeth honno ar yr awr gyda pheniad Thomas o gic gornel Nathan Craig.

Un o eilyddion yr ymwelwyr a gafodd y nesaf wrth i Danny Brookwell daro taran o ergyd i’r gornel uchaf o ongl dynn yn dilyn cic gornel.

Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wedi i Craig sgorio o’r smotyn yn dilyn trosedd Stuart Jones ar Gareth Evans.

Yn wir, roedd y gôl honno’n golygu bod Caernarfon, nid yn unig yn ennill y gêm, ond yn codi dros Y Bala yn y tabl ar wahaniaeth goliau hefyd, gyda’r ddau dîm yn gorffen yn bumed a chweched wrth i’r gynghrair hollti.

.

Y Bala

Tîm: Morris, Burns, S. Smith, S. Jones, Miley, Tames, Burke, Hayes (Gosset 74’), K. Smith, Venables, H. Jones

Gôl: H. Jones 4’

Cerdyn Melyn: S. Smith 35’

.

Caernarfon

Tîm: Ramsay, Craig, Edwards, Evans, Crowther, Breese (R. Roberts 89’), Thomas, K. Roberts (J. Williams 69’), R. Williams, Bradley (Brookwell 69’)), Jones

Goliau: Thomas 61’, Brookwell 73’, Craig [c.o.s.] 90+3’

Cardiau Melyn: Edwards 82’, Craig 85’

.

Torf: 561