John Hartson yn ei ddyddiau gyda Celtic
Mae cyn chwaraewr Cymru, John Hartson, wedi dweud y byddai ganddo ddiddordeb mewn bod yn rheolwr newydd ar Wrecsam.

Fe ddywedodd cyn flaenwr Arsenal a Celtic nad yw’r clwb wedi cysylltu ag ef ond y byddai’n ystyried y swydd.

Ar hyn o bryd, mae Wrecsam yn nwylo’r rheolwr dros dro, Andy Morrell, ar ôl i Dean Saunders adael yr wythnos ddiwetha’.

Roedd un o gefnogwyr Wrecsam wedi anfon neges drydar at Hartson a chael ateb yn dweud y byddai ganddo ddiddordeb.

Cymysg yw’r ymateb ymhlith cefnogwyr hyd yma, a rhai’n teimlo bod John Hartson yn rhy ddibrofiad.