Kenny Miller (Ronnie Macdonald CCA 2.0)
Caerdydd 2  Southampton 1

Fe lwyddodd Caerdydd i greu sioc trwy guro’r tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth.

Dwy gôl yn yr ail hanner gan y blaenwr Kenny Miller oedd wedi setlo’r gêm ond fe allai fod wedi cael hatric ar ôl taro’r postyn yn yr hanner cynta’.

Southampton oedd wedi dechrau orau ond fe gryfhaodd Caerdydd wrth i’r hanner cynta’ fynd yn ei flaen ac fe ddaeth y goliau yn gynnar wedi’r egwyl.

Y goliau

Llwybr tarw oedd y gynta’, gyda chic y golgeidwad David Marshall yn mynd yn syth trwodd at Miller ac yntau’n penio’r bêl i’r rhwyd.

Roedd hynny ar ôl 56 munud ac, o fewn saith arall, fe ddaeth yr ail i Miller ar ôl rhediad cry’ gan Aron Gunnarsson.

Fe gafodd Southampton un gôl yn amser anafiadau ond roedd  hi’n rhy hwyr i’w hachub rhag colli am yr ail dro y tymor hwn.

Mae’r fuddugoliaeth o flaen 22,500 o bobol yn codi Caerdydd i’r chweched safle, driphwynt y tu ôl i Southampton.