Parc Sbyty (Owain Vaughan CCA 2.0)
Mae clwb Casnewydd wedi rhoi’r sac i’w rheolwr, Anthony Hudson, ar ôl dechrau trychinebus i’r tymor.
Mewn datganiad ar wefan y clwb yn hwyr neithiwr, fe gyhoeddodd y Cadeirydd, Chris Bright, fod cyfarfod wedi bod rhyngddo a’r rheolwr a bod Anthony Hudson bellach wedi gadael Parc Sbyty.
Y rheolwr cynorthwyol, Lee Harrison, a’r rheolwr hyfforddwr, Wayne Hatswell, fydd yn cymryd yr awenau dros dro ond mae’r clwb eisiau penodi rheolwr parhaol “cyn gynted â phosib”.
Ar ôl cael dyrchafiad i Uwch Gynghrair y Blue Square flwyddyn yn ôl a chael tymor da y llynedd, mae perfformiad Casnewydd eleni wedi bod yn siomedig iawn.
Er eu bod wedi cael cyfres o dair gêm gyfartal yn ddiweddar, dim ond unwaith y maen nhw wedi ennill yn y gynghrair eleni ac, ar hyn o bryd, maen nhw’n ail o’r gwaelod ac yn un o’r safleoedd disgyn.