Andy Morrell - hapus gyda'r ymateb
Wrecsam 1 Mansfield Town 3
Fe gollodd Wrecsam eu lle ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl colli gêm agos yn erbyn Mansfield Town.
Maen nhw bellach yn bedwerydd, ond roedd y rheolwr tros dro, Andy Morrell, yn falch o ymroddiad ei dîm ar ôl chwarae am yr hanner awr ola’ gyda dim ond deg dyn.
Y garden goch oedd trobwynt y gêm, gyda’r ddau dîm ar y pryd yn gyfartal ar 1-1. Ond, ar ôl i Nat Knight-Percival gael ei anfon o’r cae am drosedd yn y bocs, fe lwyddodd Mansfield i sgorio o’r smotyn hefyd.
‘Balch o’r ymateb’
Fe ddaeth trydedd gôl Mansfield mewn amser ychwanegol, pan oedd Wrecsam yn pwyso i ddod yn gyfartal.
Fe ddywedodd Morrell wedyn ei fod yn falch o ymateb y tîm i’r garden goch ond mai dim ond bryd hynny y daethon nhw yn fyw.
“Alla’ i ddim gweld bai ar ymateb y chwaraewyr,” meddai, “a dyna’r pwynt positi y galla’ i ei gymryd o’r gêm.”
Y gêm – o gôl i gôl
Roedd Wrecsam wedi cael hanner awr cynta’ da, gan ddod yn agos fwy nag unwaith, ond aeth Mansfield wedi ar y blaen yn union cyn hanner amser wrth i Danny Wright sgorio yn ei gôl ei hun.
Ar ôl 64 munud, fe ddaeth Wrecsam yn gyfartal trwy ergyd dda gan Lee Fowler ond, fe fethon nhw â chanolbwyntio wedyn, ac fe ildiodd Knight-Percival y gic o’r smotyn.
Am y deg munud ola’, dim ond deg dyn oedd gan Mansfield hefyd ar ôl carden goch sydd, yn ôl y clwb o Swydd Nottingham, yn “amhosib ei deall”.