Yr ymosodwr ifanc, Nathaniel Jarvis oedd sgoriwr Casnewydd
Forrest Green Rovers 1 – 1 Casnewydd
Mae Casnewydd yn dal i chwilio am eu hail fuddugoliaeth o’r tymor ar ôl gêm gyfartal arall yn erbyn Forrest Green heno.
Sgoriodd y chwaraewr sydd ar fenthyg o Gaerdydd, Nathaniel Jarvis wedi 38 munud i roi gobaith i’r tîm Cymreig.
Manteisiodd yr ymosodwr ar gamgymeriad yn amddiffyn y tîm cartref i rwydo ei ail gôl o’r tymor
Yn anffodus i Gasnewydd, sgoriodd eu cyn chwaraewr, Charlie Griffin gyda pheniad hanner ffordd trwy’r ail hanner i ddod â’r sgôr yn gyfartal.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn codi uwchben Alfreton i’r trydydd safle o’r gwaelod yn Uwch Gynghrair y Blue Square.