Cawod gynnar i Nathaniel Knight-Percival (llun o wefan CPD Wrecsam)
Wrecsam 1 – 3 Mansfield
Wedi buddugoliaeth gyntaf fel rheolwr dros dro Wrecsam ddydd Sadwrn, dysgodd Andy Morrell heno nad yw’r swydd mor hawdd ag yr oedd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf.
Collodd Wrecsam o dair gôl i un ar y Cae Ras ble roedd torf fawr o 3,478 wedi ymgasglu gan obeithio dathlu buddugoliaeth gyntaf y clwb dan reolaeth Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr.
Peniodd Danny Wright i gôl ei hun wedi 40 munud i roi’r flaenoriaeth i’r ymwelwyr ar yr hanner.
Er i Wrecsam daro nôl gydag ergyd o bellter gan Lee Fowler wedi 64 munud, roedd Mansfield yn arwain eto dair munud yn ddiweddarach.
Arweiniodd trosedd gan Nathaniel Knight-Percival ar Ross Dyer at gic o’r smotyn i Mansfield a chawod gynnar i chwaraewyr canol cae Wrecsam.
Doedd dim camgymeriad gan Matthew Green o’r smotyn.
Gwelodd amddiffynnwr yr ymwelwyr, Tom Naylor gerdyn coch am drosedd ar Adrian Cieslewicz gyda 7 munud yn weddill, ond doedd hynny ddim yn ddigon o fantais i Wrecsam allu taro nôl.
Seliwyd y canlyniad gyda thrydedd gôl Mansfield yn y bumed funud o amser wedi’i ganiatáu am anafiadau – Paul Connor yn rhwydo.