Mae’r cefnwr de Chris Gunter yn edrych ymlaen at ddathlu cap rhif 93 mewn steil yn Albania nos Fawrth (Tachwedd 20), wrth iddo dorri record y golwr Neville Southall am nifer y capiau dros Gymru.
Daeth cadarnhad eisoes gan y rheolwr Ryan Giggs y bydd e’n cael ei gynnwys yn y tîm, wrth i’w gyd-amddiffynwyr James Chester a Paul Dummett golli allan oherwydd anafiadau.
Ond fe fydd yn troi at ei gyd-chwaraewr Gareth Bale er mwyn sicrhau y gall ei deulu fod yn y stadiwm, a hynny drwy ofyn iddo am gael benthyg ei awyren i hedfan ei deulu i’r wlad ar gyfer yr achlysur.
“Dyw e ddim y lle hawsaf i’w gyrraedd ond os gall cefnogwyr Cymru ei wneud e, dw i’n sicr y galla i ffeindio ffordd,” meddai ar drothwy’r ornest yn Elbasan.
“Bydda i’n ceisio cael rhai o’r teulu yno. Ond dw i’n gwybod y byddan nhw’n gwylio yn rhywle os na alla i wneud hynny, oherwydd maen nhw wedi gwneud hynny drwy gydol fy ngyrfa.”
Cefnogwyr
Yn ôl Chris Gunter, mae’n edrych ymlaen at ddathlu’r achlysur gerbron y cefnogwyr yn Albania, ac mae e wedi eu canmol am eu cefnogaeth drwy gydol ei yrfa.
Mae disgwyl i 2,000 o gefnogwyr Cymru fod yn Albania ar gyfer y gêm.
“Mae’n briodol mewn ffordd cael ei wneud e gerbron y cefnogwyr hynny,” meddai.
“Bydd llawer o’r rheiny fydd yn Albania wedi bod i lefydd anghysbell lle dw i wedi ennill llawer o ‘nghapiau.
“Bydd cael ei wneud e gerbron y cefnogwyr hynny sydd wedi gwario’r arian maen nhw wedi gweithio’n galed i’w ennill er mwyn cyrraedd y llefydd hynny, yn fraint enfawr.
“Ry’n ni wedi gweld dros y gemau diwethaf yng Nghaerdydd nad yw’r gefnogaeth ymhlith cefnogwyr oddi cartref yn fawr iawn. Ond bob man ry’n ni’n mynd, ry’n ni’n mynd â llawer o gefnogwyr gyda ni.
“Mae’n ymddangos fel eu bod nhw yno bob tro. Mae’n beth cyson pan ry’n ni’n chwarae dros Gymru.”