Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi canmol cryfder ei dîm ar ôl iddyn nhw drechu Tonga o 74-24 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 17).
Sgorion nhw ddeg cais, a 50 o bwyntiau yn ystod yr ail hanner, ar ôl bod yn gyfartal 24-24 ar yr egwyl. Dyma’u buddugoliaeth fwyaf ers curo Namibia o 81-7 yng Nghwpan y Byd 2011.
Dyma rediad gorau Cymru o ran buddugoliaethau ers tymor 2004-05 a phe baen nhw’n curo De Affrica’r wythnos nesaf, byddan nhw wedi ennill pob gêm yng nghyfres yr hydref am y tro cyntaf erioed. Maen nhw eisoes wedi curo’r Alban, Awstralia a Tonga.
“Wrth i’r gêm fynd yn ei blaen, fe wellodd nifer o unigolion gan edrych yn fwy cyfforddus, yn enwedig yn yr ail hanner,” meddai Warren Gatland.
“Mae yna gwestiynau, yn sicr, o ran dewis y garfan [ar gyfer Cwpan y Byd]. Mae gyda ni 40 o chwaraewyr, a rhaid i chi feddwl y bydd wyth neu naw ohonyn nhw’n colli allan o ran Cwpan y Byd.
“Mae rhai chwaraewyr yn ymwybodol o ba mor bwysig yw’r chwe mis nesaf. Ry’n ni mewn lle da ar hyn o bryd. Ry’n ni’n adeiladu’n dda ac mae cystadleuaeth dda.”
Dau gais i Liam Williams – a 50fed cap
Wrth ennill ei hanner canfed cap dros Gymru, sgoriodd yr asgellwr Liam Williams ddau gais, gan egluro bod yr achlysur yn un “emosiynol” iddo.
“Pan wnaeth Dan Biggar fy llongyfarch wrth i fi redeg allan ar gyfer yr anthemau, es i’n emosiynol iawn, ac roedd rhaid i fi geisio atal y dagrau,” meddai.
“Fel tîm, fe allen ni fod wedi gwneud mwy ond ar y cyfan, roedd ennill fy hanner canfed cap a sgorio dau gais wedi ei wneud yn brynhawn gwych.”