Bydd y cyn-bêl-droediwr rhyngwladol a’r sylwebydd o ogledd Cymru, Malcolm Allen, yn dychwelyd i S4C yn y “dyfodol agos”, yn ôl S4C, ar ôl penderfynu “cymryd hoe” o’r byd sylwebu.
Daeth cadarnhad na fydd Malcom Allen yn cyd-sylwebu â Nic Parry ar raglen Sgorio yn ystod y gêm fawr rhwng Cymru a Denmarc heno.
Dywed S4C eu bod nhw, cynhyrchwyr Sgorio a’r sylwebydd wedi “cyd-gytuno” ei fod yn cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau sylwebu “am y tro”.
Bydd tîm cyflwyno Sgorio heno yn cynnwys Dylan Ebenezer, Owain Fôn Williams, Gwennan Harries, Nic Parry ac Owain Tudur Jones.
Digwyddiad yng Nghaernarfon
Daw’r cyhoeddiad ychydig dros wythnos yn dilyn adroddiadau bod Malcolm Allen yn gysylltiedig ag ymchwiliad gan yr heddlu i achos o ddwyn nwyddau o archfarchnad yng Nghaernarfon.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd ymchwiliad ei gynnal i’r digwyddiad ar Dachwedd 7, ond ni chafodd neb eu harestio.
Mae S4C wedi gwrthod cadarnhau bod y penderfyniad i ryddhau’r sylwebydd am gyfnod dros dro yn gysylltiedig â’r digwyddiad hwn.
Bydd y gêm rhwng Cymru a Denmarc yn cychwyn am chwarter i wyth heno, ac yn cael ei darlledu’n llawn ar BBC Radio Cymru a S4C.