Malky Mackay
Caerdydd 0-0 Caerlŷr
Am yr ail waith mewn wythnos, cyfartal oedd hi ar ddiwedd 90 munud rhwng Caerdydd a Chaerlŷr heddiw.
Yn wahanol i’r gêm rhwng y ddau dîm yng nghwpan Carling nos Fercher, doedd dim amser ychwanegol na chiciau o’r smotyn i setlo’r mater y prynhawn yma.
Doedd dim goliau o gwbl chwaith, er i’r ddau dîm greu digon o gyfleoedd i gipio’r fuddugoliaeth.
Er hynny, mae’n siŵr mai gêm gyfartal oedd y canlyniad teg gan i’r ddau dîm reoli cyfnodau o’r gêm.
Anafiadau
Gofid mwyaf rheolwr Caerdydd, Malky Mackay fydd yr anafiadau i’w chwaraewyr yn ystod y gêm.
Bu’n rhaid i’r tîm cartref ddefnyddio eu tri eilydd yn y 45 munud cyntaf. Anafwyd Craig Conway wedi 25 munud a daeth Rob Earnshaw i’r maes yn ei le.
Dim ond chwarter awr fu Earnshaw ar y maes gan iddo yntau godi anaf bum munud cyn yr hanner a chael ei eilyddio am Rudy Gestede.
Does dim dau heb dri meddai’r hen ddywediad, a’r trydydd chwaraewr cartref i gael ei anafu oedd yr amddiffynnwr Mark Hudson, gyda Darcy Blake yn dod i’r maes yn ei le yn ystod yr hanner.
Pwysau tua’r diwedd
Er tegwch i Gaerdydd, hwy oedd y tîm mwyaf ymosodol yn yr ail hanner gan greu nifer o hanner cyfleoedd ond iddynt fethu a manteisio.
Wrth i’r gêm dynnu i derfyn, Caerlŷr oedd yn pwyso a daeth cyfleoedd da i Darius Vassell a’r Cymro Andy King.
Yn y funud olaf un tarodd peniad Vassell yn erbyn y trawst a bydd Malky Mackay’n hapus a’r pwynt.