Roedd ennill triphwynt cynta’r tymor yn erbyn Fulham “fel ennill y gynghrair”, yn ôl rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock.
Mae’r Adar Gleision wedi codi oddi ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl curo Fulham o 4-2 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.
Dyma’r tro cyntaf i Gaerdydd ennill gêm ym mhrif adran Lloegr ers 2014.
Josh Murphy, Bobby Reid, Callum Paterson a’r eilydd Kadeem Harris rwydodd i’r Cymry.
‘Heddiw mae’n tymor ni’n dechrau’
Yn dilyn y fuddugoliaeth, dywedodd Neil Warnock, “Heddiw mae’n tymor ni’n dechrau.
“Hyd yn oed ar yr hanner, ar ôl i ni gael cwpwl o goliau, dywedon ni mai nawr yw ein hamser ni.
“Os edrychwch chi yn yr ystafell newid, mae hi fel pe baen ni wedi ennill y gynghrair y tymor diwethaf.
“Ry’n ni’n gwybod y gallwn ni gystadlu ar y lefel yma. Ry’n ni wedi aros cyhyd – does neb eisiau mynd i ganol mis Hydref cyn eu buddugoliaeth gyntaf.”
Lerpwl fydd gwrthwynebwyr nesaf Caerdydd, a hynny yn Anfield.