Y Seintiau Newydd 3–0 Cei Connah                                            

Y Seintiau Newydd a aeth â hi wrth i’r ddau dîm ar frig Uwch Gynghrair Cymru wynebu’i gilydd ar Neuadd y Parc nos Sadwrn.

Dechreuodd Cei Connah’r gêm ddau bwynt uwch ben pencampwyr y tymor diwethaf ond mae golwg fwy cyfarwydd ar y tabl erbyn hyn diolch i goliau Aeorn Edwards (2) a Blaine Hudson.

Does dim dwywaith mai Cei Connah a gafodd y gorau o chwarter cyntaf y gêm ond y Seintiau a aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae.

Ac am gôl yr oedd hi gan Edwards, cyd chwarae da rhyngddo ef a Greg Draper yng nghanol y cae ac yna ergyd wych i gornel uchaf y rhwyd o bum llath ar hugain a mwy.

Cafodd y Seintiau fwy o’r gêm ar ôl hynny ond bu rhaid i Paul Harrison wneud arbediad da i atal Callum Morris a’u cadw ar y blaen ar yr egwyl.

Dechreuodd yr ail hanner, fel y cyntaf, gyda Cei Connah yn pwyso, ond y Seintiau a gafodd yr ail gôl holl bwysig toc cyn yr awr. Edwards a oedd y sgoriwr unwaith eto, yn rhedeg i lwybr pas hir gywir Chris Marriott y tro hwn cyn cymryd un cyffyrddiad i guro John Danby ac un i roi’r bêl mewn rhwyd wag.

Seren y gêm, Edwards, a enillodd y gic rydd a arweinodd at drydedd gôl y pencampwyr hefyd. Roedd Hudson wedi gwastraffu cyfle da yn gynharach yn yr hanner ond wnaeth o mo’r un camgymeriad eto wrth benio croesiad Marriott i gefn y rhwyd.

Fe fyddai pedwaredd gôl wedi bod yn hynod annheg ar y Nomadiaid ond bu’n rhaid i’r Seintiau fodloni ar dair pryn bynnag wrth i Dean Ebbe wastraffu cyfle gorau’r gêm, yn taro’r trawst o chwe llath.

Mae’r canlyniad yn codi’r Seintiau i frig y tabl, ond dim ond pwynt sydd yn gwahanu’r ddau dîm ar y brig wedi traean y tymor.

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Holland, Cabango, Routledge, Brobbel (Byrne 90+1’), Draper (Ebbe 65’), Hudson, Mullan, Edwards (Redmond 68’)

Goliau: Edwards 26’, 58’, Hudson 66’

.

Cei Connah

Tîm: Danby, Disney, Wilson, Harrison, Wignall (Kenny 79’), Morris, Owens, Poole (Bakare 45’), Holmes, Owen, Hughes (Woolfe 71’)

Cardiau Melyn: Hughes 54’, Morris 64’, Wignall 78’

.

Torf: 225