Zoltan Liptak (Llun: Wikipedia)
Mae adroddiadau’n awgrymu bod Abertawe’n barod i gryfhau eu hopsiynau amddiffynnol trwy arwyddo’r chwaraewr o Hwngari, Zoltan Liptak.
O ganlyniad i anafiadau i Alan Tate a Steven Caulker, mae gan Brendan Rogers wendid yng nghanol yr amddiffyn.
Dyw penderfyniad FIFA i flocio trosglwyddiadau Rafik Halliche a Darnel Situ heb helpu achos Rogers chwaith wrth iddo geisio cryfhau’r adran honno yn ei garfan.
Mae Sky Sports wedi awgrymu mai’r chwaraewr 26 oed, Liptak, yw’r nesaf ar restr rheolwr Abertawe, ac yntau ar gael yn rhad ac am ddim ar ôl gadael pencampwyr cynghrair Hwngari, Videoton yn ddiweddar.
Cyfnod prawf
Mae Liptak wedi cyfaddef wrth Nemzeti Sport ei fod ar gyfnod prawf gyda thîm yn Uwch Gynghrair Lloegr, ond wedi gwrthod datgelu pa dîm.
“Rwy ar dreial gyda chlwb Uwch Gynghrair ond dwi ddim am ddweud mwy,” meddai’r chwaraewr.
“Daeth y cyfle ddydd Sadwrn diwethaf, ac fe deithiais yno ddydd Sul er mwyn cael fy sesiwn hyfforddi cyntaf ddydd Mawrth.”
“Bydd yna gêm gyfeillgar rhwng aelodau’r garfan ddydd Mercher ac ar ôl hynny bydd fy nyfodol yn cael ei benderfynu. Mae’n bosib y byddai’n barod i eistedd ar y fainc ddydd Sadwrn.”
Mae Liptak wedi chwarae am gyfnodau â Southend, Stevenage a Southampton yn y gorffennol.