Matthew Rees o Gastell Nedd - ail wythnos yn olynol yn nhîm yr wythnos (Llun o wefan y clwb)
Serennodd sawl chwaraewr dros yn Uwch Gynghrair Bêl-droed Cymru dros y penwythnos wrth i ni weld newidiadau yn y safleoedd uchaf. Pa chwaraewyr greodd yr argraff fwyaf ar griw Sgorio? Dyma dîm yr wythnos…

Golwr

Paul Harrison (Y Seintiau Newydd) – un o’r rhinweddau sy’n rhaid ei gael fel golwr i dîm llwyddiannus yw’r gallu i ganolbwyntio am gyfnodau hir heb wneud arbediad ac er nad oedd yn brysur yn ystod y gêm yn erbyn Lido Afan, sicrhaodd Harrison bedwaredd llechen lân y Seintiau’n olynol. Bydd y Seintiau’n ceisio ymestyn y rhediad i bum gêm yn fyw ar Sgorio dydd Sadwrn nesaf, wrth ymweld ag Airbus UK.

Amddiffynwyr

Lloyd Grist (Llanelli) – rhan o amddiffyn Llanelli lwyddodd i gadw blaenwyr peryglus y Bala’n dawel a’i groesiad greodd trydedd gôl hat-tric Rhys Griffiths

Matthew Rees (Castell-nedd) – perfformiad cadarn yn y cefn a sgorio gôl yn golygu bod Rees yn nhîm yr wythnos am yr eilwaith yn olynol

Paul Cochlin (Port Talbot) a Dave Hayes (Prestatyn) – y ddau gapten o’r gêm ddi-sgôr ar Stadiwm GenQuip, gyda Cochlin yn penio cyfle oddi ar y llinell a Hayes yn arweinydd cadarn i’w dîm

Canol cae

Sam Gwynne (Castell-nedd) – dechreuodd ei gêm gyntaf erioed yn y gynghrair yn y Drenewydd yn fyw ar Sgorio’r Sadwrn diwethaf a bu bron iddo ennill gwobr Seren y Gêm. Chwaraewr taclus a diffwdan yng nghanol cae sy’n cynnig rhywbeth gwahanol i Gastell-nedd

Chris Seargeant (Y Seintiau Newydd) – sgoriodd un o goliau gorau’r penwythnos i agor y llifddorau’n erbyn Lido Afan. Perfformiad campus gan gyn-chwaraewr Bangor

Neil Thomas (Bangor) – mae Thomas yn ei ail gyfnod gyda Bangor a sgoriodd ei gôl gynghrair gyntaf i’r clwb yng Nghaerfyrddin, y pencampwyr yn cipio’r tri phwynt gan droi colled yn fuddugoliaeth

Ymosod

Nick Harrhy (Caerfyrddin) – draenen yn ystlys Dinasyddion Bangor drwy’r prynhawn. Harrhy oedd yn gyfrifol am y gôl agoriadol ac roedd yn anlwcus i beidio sgorio ail gan daro’r trawst gyda tharan o ergyd

Rhys Griffiths (Llanelli) – mae record sgorio Rhys Griffiths yn anhygoel – prif sgoriwr y gynghrair am chwe tymor yn olynol. Ond mae un record unigryw newydd o fewn cyrraedd Griffiths yn y gêm nesaf – hat-trick o hat-tricks ar ôl taro tair gôl yr un yn y ddwy gêm ddiwethaf.

Craig Hughes (Castell-nedd) – Seren y Gêm gan Malcolm Allen yn gêm fyw Sgorio bnawn Sadwrn, er na sgoriodd gôl ym muddugoliaeth swmpus Castell-nedd dros y Drenewydd. Perfformiad cyflawn gan y blaenwr yn creu lle tu ôl i’r amddiffyn a chreu goliau

Gallwch weld rhai o’r perfformiadau uchod yn fideos uchafbwyntiau Sgorio o gemau’r penwythnos yn ein crynodeb o gemau’r Uwch Gynghrair.