Gohebydd CPD Wrecsam, Huw Ifor sy’n edrych ar oblygiadau canlyniad neithiwr.

Fel y tybiais roedd Creighton a Maxwell yn ôl yn y tîm neithiwr yn erbyn Southport. Yn wahanol i Wrecsam roedd Southport wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf felly fyddai’r gêm hon ddim yn hawdd.

Cychwynnodd Wrecsam ar dân ond roedd amddiffyn Southport yn weithgar a chadarn. Yr unig gyfle a gafwyd yn y munudau cynnar oedd hanner cyfle i Knight Percival ond dim llwyddiant.

Ddeg munud cyn yr egwyl fe ergydiodd Harris yn bwerus ond arbedodd McMillan. O’r gic cornel a ddilynodd fe arbedodd yn wych o beniad Speight. Dylai Speight fod wedi sgorio a bod yn onest.

Cyfleoedd a chardiau coch

Ar ddechrau’r ail hanner fe gafodd Moogan, capten Southport ei hel oddi ar y cae am ddwy dacl flêr yn olynol. Dylai hyn fod wedi  sbarduno Wrecsam ond yr oeddynt yn cael problemau i agor yr amddiffyn ystyfnig y tîm cartref.

Ychydig funudau yn ddiweddarach fe wrthododd y dyfarnwr floedd gyntaf Wrecsam am gic o’r smotyn wedi i amddiffynnwr rwystro ergyd Fowler yn defnyddio  (yn ôl pob golwg) ei fraich.

Tarodd Harris ergyd arall bwerus tuag at y gôl ond fe darodd y bêl y trawst. Dyna gyfraniad olaf Harris cyn gadael y cae , Glenn Little ddaeth ymlaen yn ei le. Cafodd berfformiad arbennig , yn cadw’r bêl a chreu cyfleon ond ei gyfraniad pwysicaf oedd cael clirio’r bêl yn hollol anymwybodol oddi ar y llinell o ergyd odidog  Steve Akrigg.

Ar ôl 85 munud yr oedd y ddau dîm yn chwarae gyda deg dyn wedi i ail dacl wirion gan Curtis Obeng ddangos ychydig o’i ddiffyg profiad o bosib. Dyna wnaeth Obi Onouro hefyd ar ôl 93 munud, wedi i amddiffynnwr dynnu ei grys yn y bocs – fe safodd yn gryf ble byddai dyn a mwy o brofiad wedi disgyn.

Dim cic o’r smotyn oedd penderfyniad y dyfarnwr am yr eilwaith. Gorffennodd y gêm yn ddi-sgôr.

Llechen lân yn gysur

Er y byddai buddugoliaeth wedi bod yn dda roedd peidio ildio yn rhywbeth i fod yn falch ohono. Bydd y perfformiad hwn yn codi ychydig ar galonnau.

Collodd Gateshead a chafodd Luton gêm gyfartal felly mae Wrecsam yn gyfartal ar frig yr adran. Y newyddion drwg oedd buddugoliaeth 5- 1 Fleetwood sydd yn ymuno a ni, Luton a Gateshead ar frig yr adran.