Danny Rose - sgoriwr Casnewydd (Llun o wefan CPD Casnewydd)
Casnewydd 1 – 1 Stockport County

Mae rhediad siomedig Casnewydd heb ennill yn parhau wedi gêm gyfartal ar Barc Sbytty neithiwr.

Er hynny, bydd Anthony Hudson yn falch o roi terfyn ar rediad o bum colled yn olynol a sicrhau pwynt gan obeithio ysgafnhau’r pwysau sydd arno.

Ar un pryd roedd yn edrych yn debygol y byddai Casnewydd yn cipio’r fuddugoliaeth.

Roedden nhw ar y blaen wedi 31 munud diolch i gôl gan Danny Rose, oedd wedi edrych fel bygythiad cyn hynny.

Y tîm cartref reolodd yr hanner cyntaf a daeth cyfleoedd i Sam Foley, David Pipe a Craig McAllister, tra bod yr ymwelwyr heb lwyddo i gael ergyd ar gôl.

Digon digyffro oedd yr ail hanner, er bod Stockport yn meddwl eu bod yn gyfartal gyda 15 munud yn weddill diolch i Chris Blackburn, ond dyfarnwyd nad oedd y bêl wedi croesi’r llinell.

Roedd yn rhybudd i’r tîm cartref, a gyda llai na 10 munud ar ôl llwyddo Tom Elliott i benio i’r rhwyd i’r ymwelwyr er mawr siom i gefnogwyr Casnewydd.

Perfformiad i adeiladu arno

“Ro’n i’n meddwl y gallem ni fod wedi selio’r fuddugoliaeth ynghynt yn y gêm, ond ro’n i’n meddwl ei fod yn berfformiad gwych” meddai Anthony Hudson ar ôl y gêm.

“Ydy, mae’n teimlo ychydig bach fel colli.”

“Mae’n berfformiad arall  y gallwn ni adeiladu arno. Rwy’n credu yn y grŵp yma a dwi’n meddwl y gallwn ni godi pethau ac y byddwn ni’n iawn“ ychwanegodd Hudson.

Tîm Casnewydd:

Thompson, Robson, Warren, Andrew Hughes, Miller, Rose, Rogers, Pipe (Gilligan 60), McAllister, Foley (Knights 75), Jarvis (Buchanan 84)

Eilyddion na ddefnyddiwyd: Harrison, Hatswell