Cafodd Curtis Obeng ei yrru o'r maes neithiwr (Llun o wefan CPD Wrecsam)
Southport 0 – 0 Wrecsam
Mae Wrecsam wedi codi i’r ail safle yn Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr yn Southport neithiwr.
Wedi dwy golled yn olynol, bydd Wrecsam yn falch o’r pwynt oddi-cartref sy’n ddigon i’w gosod yn yr ail safle ar wahaniaeth goliau.
Er gwaetha’r hyn mae’r sgôr yn ei awgrymu, doedd hi ddim yn gêm ddiflas o bell ffordd.
Roedd y tîm cartref lawr i 10 dyn wedi naw munud o’r ail hanner wrth i’w capten Alan Moogan weld ail garden felen.
Ymunodd cefnwr Wrecsam, Curtis Obeng, ag ef funudau cyn diwedd y gêm wedi tacl flêr.
Tarodd Wrecsam y traws deirgwaith yn ystod y gêm yn ogystal â theimlo y dylen nhw fod wedi cael cic o’r smotyn yn amser ychwanegol y gêm wrth i grys Obi Anoruo gael ei dynnu yn y cwrt.
Er y bydd Dean Saunders yn falch o roi terfyn ar y rhediad gwael, bydd yn siomedig gyda methiant ei dîm i greu cyfleoedd gyda’r tîm cartref lawr i 10 dyn.
Mae’r Dreigiau yn ail ond yn gyfartal ar bwyntiau â thri thîm arall ar y brig sef Luton, Gateshead a Fleetwood.
Bydd Saunders yn gobeithio y gall ei dîm fynd un yn well a sicrhau’r fuddugoliaeth oddi-cartref yn Grimsby ddydd Sadwrn.
Tîm Wrecsam:
Maxwell, Obeng, Ashton, Creighton, Harris (Little 74), Fowler, Speight, Morrell (Anoruo 81), Keates (c), Knight-Percival, Pogba (Cieslewicz 64).
Eilyddion na ddefnyddiwyd: Tolley, Westwood