Don Cowie (Jon Candy CCA 2.0)
Ein Gohebydd Clwb CPD Caerdydd, Dafydd Wyn Williams sy’n asesu gêm gyfartal yr Adar Gleision yn erbyn Blackpool.
Mae yna rai rheolwyr sy’n nabod chwaraewyr mor dda, ac yn ymddiried ynddynt gymaint fel eu bod nhw’n ceisio eu denu gyda nhw wrth symud i glwb newydd. Ry ni’n gweld hyn ar bob lefel o bêl-droed. Mae Ricardo Carvalho er enghraifft wedi chwarae i Jose Mourinho ym Mhortiwgal, Lloegr a Sbaen i Porto, Chelsea a Real Madrid. Digwydd bod nes innau gynrychioli tîm ieuenctid Aberystwyth gyda Meirion “Dennis” Appleton fel rheolwr ar ôl blwyddyn o weithio yn ei siop chwaraeon yn y dre!
Ceir enghraifft arall o’r ffenomen hyn eleni yn nhîm Caerdydd eleni. Cipiodd Malky Mackay yr Albanwr Don Cowie o gaeau’r Vicarage Road er mwyn iddo chwarae yng nglas yr adar. Cafodd ei wobrwyo am hynny ddydd Sadwrn wrth i Andrew Taylor croesi’r bêl i Don Cowie benio i’r rhwyd yn ail hanner y gêm yn erbyn Blackpool .
Wedi hynny, yn ôl ei arfer, newidiodd Ian Holloway ei dîm gyda thri eilydd a golwg ymosodol tu hwnt. Roedd tinc Uwch Gynghreirol, anochel i gôl Blackpool wrth i un o brif berfformwyr Blackpool llynedd, Taylor-Fletcher roi’r cyfle i Kevin Phillips saethu o du allan i’r cwrt cosbi. Os y chi wedi dilyn pêl-droed o gwbl yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, nid yw’n newyddion ysgytwol bod hwnnw wedi sgorio!
Bu Craig Conway yn weithgar iawn yn y deg diwethaf i Gaerdydd, gan gynnwys ergyd yn y cwrt cosbi, ond ofer fu ei ymdrechion yn y diwedd.
1-1 y sgôr terfynol felly ar ddiwedd y gêm, ar ôl hanner cyntaf di-sgôr.
Dyma’r tro cyntaf i’r clybie chwarae ei gilydd ers i Blackpool faeddu Caerdydd yn Wembley yng ngemau ail-gyfle’r Bencampwriaeth ddau dymor yn ôl. Mae’r haf wedi gweld newidiadau mawr i’r ddau dîm. Er hynny, tîm gweddol mae Mackay yn dewis defnyddio tîm gweddol gyson pob wythnos ar hyn o bryd. Un enw newydd i rai ddydd Sadwrn oedd Filip Kiss – capten tîm dan 21 Slofacia. Mae Mackay yn hoff o’i weld ar y bêl felly debyg welwn ni mwy ohono fe’n fuan.
Er cymaint oedd bri Blackpool y llynedd, mae record go dda gan yr Adar Gleision yn ei herbyn ac fe barodd hynny gyda pherfformiad a oedd yn codi calon eu rheolwr, yn arbennig gan mai hon oedd y nawfed tro yn olynol i Gaerdydd beidio cael eu maeddu oddi cartref.