Dan Biggar
Ein gohebydd rhanbarth Y Gweilch, Huw Wilcox sy’n asesu perfformiad y tîm dros y penwythnos.

Gyda chymaint o dimau a rhanbarthau â’u chwaraewyr mwyaf dylanwadol ar ddyletswydd ryngwladol, mae’n gyfnod eithriadol o bwysig i’r Gweilch ar ddechrau’r tymor newydd. Ar ôl ysgubo Leinster o’r neilltu a chrafu heibio i Gaeredin, llwyddodd y Gweilch o drwch blewyn i guro Treviso o 32 – 27 ddydd Sadwrn.

Roedd yn ddechrau llai na delfrydol pan groesodd Luca Morisi i’r chwith o’r pyst ar ôl iddo hollti drwy’r amddiffyn tila yng nghanol cae. Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Gweilch pan duriodd Benjamin Vermaak o dan y pyst wedi cyfnod hir o bwyso ar y llinell gais.

Yn ffodus, roedd Dan Biggar eto’n ddibynadwy gyda’i droed dde a chadwodd yr ymwelwyr o fewn cyrraedd. Wrth i hanner amser ddynesu, roedd yn rhaid i’r Gweilch ymateb os oeddent am fod ag unrhyw obaith o ennill. Cychwynnodd Andrew Bishop symudiad o’i hanner ei hun gyda chic a chwrs cyn llwyddo i ryddhau ei ddwylo yn y dacl a phasio i Tom Isaacs a lwyddodd i groesi pymtheg metr i’r dde o’r pyst.

Gyda’r sgôr yn 18 – 16 i Treviso ar yr hanner, roedd talcen caled yn wynebu’r Gweilch. Cychwynnodd yr ymwelwyr yr ail hanner yn llawn brwdfrydedd. Cadwon nhw’r meddiant yn dda, ac wedi sawl cymal dangosodd Tom Smith, y blaenasgellwr addawol, ei gryfder a’i nerth wrth hyrddio dros y llinell gais yn y gornel.

Rhaid cyfaddef bod disgyblaeth y Gweilch wedi bod yn destun trafod ers dechrau’r tymor, ac fe’u cosbwyd yn gyntaf gan Kris Burton ac wedyn gan Willem De Waal gyda 5 gôl gosb rhyngddynt.

Bydd y tîm rheoli yn rhwystredig iawn o feddwl bod y Gweilch wedi bod lawr i bedwar dyn ar ddeg ymhob gêm eleni. Siomedig oedd gweld Biggar yn troseddu dan drwyn y dyfarnwr a chymaint yn y fantol wrth i’r gêm dynnu at ei therfyn.

Serch hynny, dangosodd y Gweilch eu bod yn benderfynol o fynd yn ôl i’r Liberty â phedwar pwynt. Llwyddodd Kristian Phillips â chic gosb dan gryn bwysau i dynnu’r gêm o afael y tîm cartref.

Rwy’n siŵr bydd y Gweilch am sicrhau mis agoriadol diguro pan fyddant yn herio Ulster, sydd hefyd â record 100%, ar y Liberty bnawn Sul nesaf.